Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi cyhoeddi 39 o lysgenhadon newydd ar draws deuddeg coleg addysg bellach ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024-25.
Mae pedwar llysgennad cenedlaethol wedi’u penodi hefyd.
Bydd dyletswydd ar y llysgenhadon i godi ymwybyddiaeth eu cyd-fyfyrwyr yn y coleg o’r manteision sy’n deillio o astudio a hyfforddi’n ddwyieithog.
Mae disgwyl iddyn nhw hefyd annog eu cyd-fyfyrwyr i barhau i ddefnyddio’u sgiliau Cymraeg tu hwnt i’w cyfnod ar eu cyrsiau.
Cefnogaeth y Coleg
Un sydd wedi’i benodi’n llysgennad cenedlaethol ac yn barod i ddechrau ar ei rôl yw Aidan Bowen, sy’n astudio ym maes Cyfrifeg yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro.
Wrth siarad â golwg360, dywed ei fod yn “browd iawn” o gael bod yn llysgennad, a’i fod yn edrych ymlaen at “hyrwyddo’r Gymraeg” ar y campws.
Mae’n credu bod hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn y coleg yn hollbwysig er mwyn “gwella ein diwylliant”.
“Ni o Gymru; rwy’n credu y dylai pawb gael y cyfle i siarad Cymraeg a byw yn Gymraeg,” meddai.
“Mae llawer o fy ffrindiau i yn siarad Cymraeg, felly rwy’n gallu siarad gyda nhw yn y Gymraeg oherwydd y sgiliau [dwi wedi’u dysgu].
“Rwy’n teimlo’n falch iawn pan dw i’n gallu helpu rhywun, ac maen nhw’n cael teimlad o falchder hefyd.
“Rwy’ wedi cael llawer o gefnogaeth gan y Coleg Cymraeg, ac mae llawer o gefnogaeth hefyd gan y coleg (Caerdydd a’r Fro).
“Dw i eisiau bod yn gyfrifydd, fel rwy’n gwneud fy nghwrs i nawr ac mae’r Coleg Cymraeg wedi dweud os ydw i’n astudio 33% yn y Gymraeg, mi fydda i’n cael arian.
“Rwy’n edrych ymlaen i gymryd yr holl fanteision a’r cyfleoedd sy’n cael eu cynnig o fewn y rôl yma, a gan hynny, mi fydd cyfle i wella fy Nghymraeg i’n bersonol hefyd.”
Ychwanega fod y Coleg Cymraeg yn llwyddo i sicrhau bod y Gymraeg yn “fwy agored i bawb”.
Fel un o gefndir hil-gymysg, pwysleisia bwysigrwydd Cynllun Mentorau y Coleg Cymraeg i ddatblygu arweinwyr Cymraeg, Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol.
Mae’n annog myfyrwyr sy’n addas am rôl fel llysgennad i’r Coleg Cymraeg y flwyddyn nesaf i fentro.
Hyrwyddo’r Gymraeg drwy gynnwys digidol
Mae Magi Roberts, sy’n astudio’r Cyfryngau ar gampws Glannau Dyfrdwy Coleg Cambria hefyd yn edrych ymlaen at fwrw ati yn ei rôl fel llysgennad.
Pwysleisia fanteision bod yn ddwyieithog yn ei hardal, sy’n “agos iawn at y ffin”, meddai.
“Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn adnodd pwerus i ddylanwadu, ac mae gen i brofiad o greu cynnwys creadigol Cymraeg ar ffurf flogiau pan wnes i deithio i Asia yn ddiweddar.
“Rwy’n edrych ymlaen felly at ddefnyddio fy holl sgiliau creadigol wrth fod yn llysgennad y Coleg.”
Mae Bethan Eleri Phillips, sy’n llysgennad a myfyrwaig Busnes yng Ngholeg Sir Gâr, yn edrych ymlaen at hyrwyddo’r Gymraeg ar ei llwyfannau cymdeithasol.
“Yn fy amser hamdden, dw i’n creu cynnwys ar godi pwysau ar y cyfryngau cymdeithasol, ac rwy’ wedi llwyddo i ddenu cannoedd o filoedd o wylwyr, gyda rhai o’r fideos wedi mynd yn feiral!
“Mae gen i syniadau newydd ar sut i ddefnyddio fy mhlatfform i hyrwyddo’r iaith Gymraeg ymhlith fy ffrindiau sydd yn llai hyderus yn y Gymraeg.”
Cryfder y cynllun
Yn ôl Elin Williams, Rheolwr Marchnata’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae eu cynllun llysgenhadol addysg bellach yn mynd “o nerth i nerth”, ac mae’n braf gweld datblygiad ym mherthynas y Coleg â’r colegau ar draws y wlad.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at gydweithio gyda’r criw newydd o lysgenhadon a’r llysgenhadon cenedlaethol, ac yn gobeithio’n fawr y byddan nhw yn gallu ysbrydoli eu cyfoedion yn eu coleg a thu hwnt i ddefnyddio ac i fod y falch o’u sgiliau dwyieithog,” meddai.
Mae disgwyl i’r llysgenhedon newydd ddechrau ar y gwaith o gynrychioli’r Coleg Cymraeg a’u coleg addysg bellach eu hunain fis yma.