Mae Aelod Llafur o’r Senedd dros Bontypridd yn galw am gymorth brys i’r rhai sy’n dioddef yn sgil y llifogydd dros y penwythnos.
Mae Mick Antoniw hefyd yn galw am adolygu system rybuddion y Swyddfa Dywydd, sy’n cyhoeddi rhybuddion melyn, oren neu goch mewn tywydd garw.
Mae Storm Bert wedi taro nifer o rannau o Gymru, gan effeithio ar gartrefi a busnesau ar hyd a lled y wlad.
‘Dinistriol’
“Roedd llifogydd ofnadwy ddydd Sul yn ddinistriol i bawb gafodd eu heffeithio,” meddai Mick Antoniw.
“Rhaid mai ein blaenoriaeth ar unwaith yw cefnogi’r teuluoedd hynny, a dw i wedi siarad â’r Prif Weinidog a’r Dirprwy Brif Weinidog, a hefyd ag Ysgrifennydd Cyllid Cymru, i bwyso arnyn nhw i wneud taliad ariannol brys.
“Mae’n debygol y bydd nifer o’r trigolion sydd wedi cael eu heffeithio’n wynebu costau cyn derbyn unrhyw daliadau yswiriant, ac efallai na fydd gan eraill yswiriant.
“Bydd taliad brys yn mynd tuag at helpu teuluoedd i ateb yr heriau hyn sy’n eu hwynebu ar unwaith.”
Llifogydd Pontypridd
Dywed Mick Antoniw ei fod e wedi cyflwyno cwestiwn brys i’r Senedd at fory (dydd Mawrth, Tachwedd 25).
“Tra bod nifer yr eiddo sydd wedi’u heffeithio i lawr o gymharu â 2020, sy’n adlewyrchu’r oddeutu £70m gafodd ei fuddsoddi gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Rhondda Cynon Taf ar gyfer amddiffynfeydd rhag llifogydd, dydy hynny ddim yn gysur i’r sawl sydd wedi cael llifogydd am yr eildro ac nad oes yswiriant ar eu cyfer.
“Mewn rhai ardaloedd, er enghraifft yn Stryd Siôn yn y Trallwng, Stryd yr Aifft yn Nhrefforest a Stryd Rhydychen yn Nantgarw, mae angen rhagor o warchodaeth.
“Hefyd, mae angen adolygiad brys o systemau rhybuddion melyn, oren a choch y Swyddfa Dywydd.”
Mae Mick Antoniw wedi diolch i’r gwasanaethau brys, awdurdodau lleol a thrigolion am helpu i gadw trigolion ac eiddo’n ddiogel.