Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi na fydd newid i swydd lawn amser Llywydd UMCA wedi’r cyfan.
Roedd pryderon y gallai hi fynd yn rôl wirfoddol neu gael ei dileu’n llwyr.
Ond yn dilyn adolygiad gan Undeb y Myfyrwyr, maen nhw’n dweud eu bod nhw “wedi penderfynu parhau â’r trefniant presennol o gael Swyddog Diwylliant Cymreig a Llywydd UMCA fel rôl sabothol llawn-amser”.
Yn ôl yr Undeb, maen nhw wedi gwneud y cyhoeddiad “fel ymateb i bryderon gafodd eu mynegi”, ac “o ganlyniad i gefnogaeth glir ac unfrydol” i gadw’r drefn fel ag y mae.
Yn ôl yr Undeb, o dan arweiniad y ddau swyddog hyn, maen nhw’n:
- cynrychioli myfyrwyr ar brif bwyllgorau’r brifysgol
- darparu calendr llawn gweithgareddau i siaradwr a dysgwyr Cymraeg
- gweithio i sicrhau mynediad i addysg a chyfleoedd cyfrwng Cymraeg
Hanner canmlwyddiant
Daeth yr ansicrwydd diweddar yn dilyn dathliadau hanner canmlwyddiant UMCA eleni.
Yn ôl yr Undeb, maen nhw’n “falch o’r cyfraniad cyfoethog maen nhw wedi’i wneud i ddiwylliant a bywyd Cymreig yn Aberystwyth a thu hwnt dros yr hanner canrif ddiwethaf”.
“Fel yr Undeb Myfyrwyr cyntaf yng Nghymru i fabwysiadu enw Cymraeg, cyflwyno polisi dwyieithog a gweithredu’n gwbl ddwyieithog, mae gan Undeb Aberystwyth hanes cryf o hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant yma yn Aber,” medd yr Undeb.
“Tanlinellir yr ymrwymiad hwn i’r iaith Gymraeg ymhellach gan ffaith fod y Bwrdd Ymddiriedolwyr wedi cadarnhau yr angen parhaol am rôl Swyddog Diwylliant Cymreig a Llywydd UMCA fel blaenoriaeth cyn gynted â phosibl.
“Cam nesaf y broses fydd datblygu cynigion ar gyfer y tîm Swyddogion Llawn Amser ehangach, yn seiliedig ar fewnwelediadau pellach o’r ymgynghoriad.
“Bydd manylion y cynigion a fydd yn mynd i bleidlais myfyriwr yn cael eu cyhoeddi maes o law.”