Mae’r ansicrwydd ynghylch dyfodol Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth yn “gywilyddus”, yn ôl un o swyddogion yr undeb Cymraeg hynaf.

Daw sylwadau Erin Aled, Prif Swyddog Ail Iaith yr Undeb, wrth siarad â golwg360 ar ôl i UMCA gadarnhau bod eu dyfodol yn y fantol.

Yn ôl adroddiadau, mae Undeb Myfyrwyr Aberystwyth yn ystyried dileu un o’r pum swyddog etholedig llawn amser yn sgil yr angen i wneud toriadau ariannol.

Cafodd UMCA ei sefydlu yn 1974 i gynrychioli buddiannau myfyrwyr Cymraeg Prifysgol Aberystwyth.

Mae’n cael ei gyfrif yn sefydliad o bwys cenedlaethol sydd wedi cyfrannu at ymgyrchoedd pwysig, fel yr ymgyrch i sefydlu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sydd wedi cefnogi miloedd o fyfyrwyr gyda’u hastudiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Angen Llywydd Cymraeg?

Dywed UMCA fod rhai o fewn yr Undeb wedi codi amheuon am yr angen am Lywydd Cymraeg.

Ond “does dim newid i unrhyw un o’r rolau yn Undeb Aber heddiw”, medd yr Undeb, gan ychwanegu eu bod nhw “wedi dechrau ar broses o ymgynghoriad ar bob un o’r rolau swyddogion y dyfodol… o ganlyniad i bolisi”.

“Mae yna lawer o bethau i’w hystyried a dydi’r ymgynghoriad ddim yn agos o gwbl at unrhyw ganlyniad,” meddai’r Undeb.

“Bydd mwy o ymgynghori ac ystyriaeth i’w gynnal… a phrosesau democrataidd i’w dilyn cyn i unrhyw benderfyniad gael ei wneud.”

Yn ôl Prifysgol Aberystwyth, mater i’r Undeb yw hwn.

Cefndir

Yn sgil problemau ariannol y brifysgol, mae Undeb Myfyrwyr Aberystwyth yn ailstrwythuro’r swyddogion llawn amser.

Ar hyn o bryd, mae’r Swyddog Diwylliant Cymreig a Llywydd UMCA yn un rôl, ond y pryder i rai yw y bydd Swyddog y Gymraeg yn parhau fel rôl llawn amser, gyda Llywydd UMCA yn cael ei ddisodli, ac unai yn dod yn rôl rhan amser neu’n rôl gwirfoddol.

Barn rhai yw fod yr Undeb yn gwthio UMCA allan.

Dydy hi ddim yn glir chwaith, medden nhw, faint o doriadau fyddai’n cael eu gwneud pe bai un rôl yn cael ei ddiddymu’n llawn, gan fod y broses ymgynghori wedi bod “yn gwbl aneglur ac yn frysiog”.

‘Camwahaniaethu’

Yn ôl Nanw Maelor, cadeirydd UMCA, mae’n “corddi” myfyrwyr eu bod nhw “hyd heddiw yn parhau i wynebu’r un bygythiadau a frwydrwyd dros yr hanner canrif diwethaf”.

“Mae pwyllgor UMCA yn gwrthod dilysrwydd y broses frysiog yma.” meddai.

“Rydyn ni’n credu mai o’r gwraidd i fyny y mae undebau yn bodoli, ac mai’r unig fyfyrwyr ddylai fod â hawl dros barhad swydd sabothol Llywydd UMCA yw’r myfyrwyr mae’n eu gwasanaethu.”

Dywed Tomos Parry, aelod o UMCA, y “dylai Llywydd UMCA fod yn atebol i fyfyrwyr Cymraeg y Brifysgol yn unig, ac ni ddylai fod gan swyddogion anetholedig yn yr Undeb ehangach yr hawl i geisio cael gwared ar y swydd”.

“Mae UMCA yn bodoli i gynrychioli grŵp lleiafrifol o fyfyrwyr y Brifysgol – camwahaniaethu ydy hyn a dim llai,” meddai.

“Wnawn ni ddim gadael i’r Undeb gael gwared ar ein Llywydd ni fel myfyrwyr Cymraeg.

“Fyddwn ni ddim yn ildio.”

‘Gwarthus’

“Mae’r sefyllfa yn gywilyddus, ac yn amlwg rydym fel myfyrwyr yn poeni am ddyfodol Llywydd UMCA fel swydd lawn amser,” meddai Erin Aled wrth golwg360.

“Mae’r ffaith fod yna drafodaeth ynglyn â dyfodol y swydd yn warthus ac yn ein tanseilio fel myfyrwyr Cymraeg.

“Pam mai’r myfyrwyr Cymraeg ddylai ddioddef oherwydd heriau ariannol y Brifysgol?

“Mae’r sefyllfa yn gwbl annerbyniol!

“Nid yw’n opsiwn cael gwared â rôl Llywydd UMCA fel swydd lawn amser, ac mae’n dangos yn glir ddiffyg dealltwriaeth yr Undeb o bwysigrwydd UMCA a’r Gymraeg i fyfyrwyr Aber, ond hefyd i’n cenedl.

“Dyma ffordd druenus o ddod â dathliadau’r hanner canmlwyddiant i ben.

“Pa hawl sydd gan yr Undeb i wneud penderfyniadau dros fyfyrwyr Cymraeg?

“Nid Llywydd yr Undeb yw ein Llywydd ni, ond Llywydd UMCA, ac mae’n rhaid sicrhau bod y swydd yn ddiogel er mwyn cenhedlaethau’r dyfodol.”