Mae’r cyn-Brif Weinidog Carwyn Jones yn dweud ei fod “yn deall yn gyfan” na fydd system ariannu Cymru, Fformiwla Barnett, yn cael ei disodli.

Ers cychwyn datganoli yng Nghymru, mae Cymru’n derbyn cyfran o’r arian sy’n cael ei wario mewn meysydd datganoledig, megis iechyd ac addysg, gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn Lloegr.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wrthi’n adolygu’r fframwaith, gyda phenderfyniad ar ddyfodol y fformiwla yn debygol o gael ei gyhoeddi fis Ebrill nesaf.

Ond mae Carwyn Jones yn disgwyl i Fformiwla Barnett barhau fel ag y mae, gydag addasiad i’r fframwaith.

“Beth sy’n bwysig nawr yw bod yr arian yn dod,” meddai wrth golwg360.

“Dw i’n credu y byddai’n newid ynglŷn â’r fframwaith cyllidol – mae Keir Starmer wedi dweud hyn yn barod.”

Ychwanega ei fod e eisiau gweld “rhagor o gyllid er mwyn cael yr arian i redeg gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.”

Eluned Morgan wedi galluogi “cyfnod o esmwythyd”

Wrth edrych yn ôl ar 100 diwrnod cyntaf Eluned Morgan yn Brif Weinidog Cymru, dywed Carwyn Jones ei bod hi wedi galluogi “cyfnod o esmwythyd” i’r Blaid Lafur.

“Roedd angen cyfnod ar y blaid lle nad oedd dim drama na phroblemau mawr o fewn y grŵp,” meddai.

“Mae yna sylfaen nawr i adeiladu tuag at greu polisi newydd, a hynny er mwyn ennill yr etholiad yn 2026.”

Ar fater yr etholiad, dywed ei bod yn bwysig i’r blaid “adnewyddu” yn ystod y cylch ymgyrchu nesaf.

“Beth dw i eisiau ei wneud yw adeiladu tuag at y cam nesaf, a beth sy’n mynd i ddod ar ôl Eluned.

“Mae rhaid sicrhau bod yna grŵp o bobol yn eu lle sydd yn gallu bod yn arweinydd yn y pen draw.”

Ychwanega na ddylai talent o’r fath fod yn “fygythiad” i’r arweinydd presennol, ac y dylai hi “gofleidio” cael mwy o bobol â’r gallu i fod yn arweinydd y blaid.