Dyma eitem sy’n edrych ar rai o hoff lefydd darllenwyr Golwg360. Mae’r eitemau wedi cael eu sgwennu gan ddysgwyr Cymraeg. Y tro yma, Maryline Leese sy’n dweud pam ei bod yn hoffi Ynys Bŷr ger Dinbych-y-pysgod yn Sir Benfro…
Mae Maryline yn dod o Dde Ffrainc yn wreiddiol ond bellach yn byw rhwng Y Drenewydd a’r Trallwng ym Mhowys.
Lle mae eich hoff le yng Nghymru?
Fy hoff le yng Nghymru ydy Ynys Bŷr ar bwys Dinbych-y-pysgod yn Sir Benfro.
Pam dach chi’n hoffi Ynys Bŷr?
Dw i’n hoffi Ynys Bŷr oherwydd mae’r awyrgylch yn heddychlon yma. Dw i’n hoffi cerdded i’r goleudy i weld golygfeydd gwych dros Fae Caerfyrddin. Dw i’n hoffi’r bythynnod bach yn y pentref a’r abaty uwchben.
Pa mor aml dach chi’n mynd i Ynys Bŷr?
Dw i wedi bod i Ynys Bŷr ddwywaith. Y tro cyntaf, pan oeddwn i ar wyliau gyda fy nheulu yn Sir Benfro 25 o flynyddoedd yn ôl. Yr ail waith, pan oeddwn i ar wyliau yn Sir Gaerfyrddin gyda fy ngŵr y flwyddyn cyn i ni symud i Gymru.
Unrhyw ffeithiau difyr am Ynys Bŷr?
Ar Ynys Bŷr, mae’r gytref fwyaf o wylanod y penwaig sy’n nythu yn Sir Benfro.