Yn y dechreuad roedd Berlin (1995); ac yna Genefa, Kyoto, Buenos Aires, Bonn ac ymlaen… Dubai yn 2023, ac eleni daeth aelodau UNFCCC – United Nations Framework Convention on Climate Change i Baku, Azerbaijan (COP – Conference of the Parties – aelodau UNFCCC; Tachwedd 11-22).
Daeth arweinwyr gwleidyddol a gwyddonol ynghyd eto i drafod newid hinsawdd. Y bwriad yw lledu a dyfnhau cytundebau rhyngwladol fydd yn arafu cynhesu byd-eang. Eto fyth, yr ofn yw na fydd trafodaeth y gwleidyddion a’r gwyddonwyr yn cyffwrdd â’r lletchwithdod gwaelodol: nid yw pobol yn gyffredinol yn ymdeimlo â’r angen i newid eu ffordd o fyw yn ddwfn a llydan. Mae’r pwyslais Gwyrdd yn real, heb os nac oni bai, ond bas ydyw. Dywedodd Groucho Marx (1890-1977) rywdro:
“Why should I care about posterity? What’s posterity ever done for me?”
Beth sydd i’w ddweud am hyn oll? Fe ellid dweud mai ffôl ydym; gwan, gwamal, gwirion. Fe ellid dweud nad oes gobaith i ni. Fe ellid dweud felly, ac mae nifer o bobol yn dweud hynny, ond dw i’n credu mai dyma sydd rhaid dweud: ni ddylid caniatáu i bobol golli gobaith – canlyniad anochel colli gobaith yw difaterwch.
Hanfod y Nadolig yw gobaith – y gobaith ddaw nid yn unig o’n hymddiriedaeth ni yn Nuw, ond yn bwysicach na hynny, ymddiriedaeth Duw ynom ni. Nid yw’r fath ymddiriedaeth yn caniatáu i bobol Dduw ildio i demtasiynau parod y digalondid sydd o’n cwmpas ym mhob man. Pan mae yna obaith o well dyfodol, mae difaterwch yn gwywo.
Mae cloffni pob COP yn dangos yr hyn mae Cristnogion wedi’i ddeall ers y dechrau’n deg: rhaid i newid ddod o’r gwaelod i fyny. Ni all ddod byth – yn grefyddol, yn economaidd, yn wleidyddol nac yn amgylcheddol – am i lawr.
Rhaid i newid ddechrau gyda phobol fel ti a fi. Un o anhepgorion gwaith yr eglwys leol yw sicrhau bod pobol yn gweld ac yn deall bod yn rhaid – rhaid i ni, oherwydd ein ffydd – sicrhau bod ein ffordd o fyw heddiw mewn perffaith gynghanedd â’r ffordd o fyw y buasem yn ei dymuno i’n plant a phlant ein plant yfory.