Bydd artist wnaeth ennill cystadleuaeth gwaith celf sy’n trafod annibyniaeth, yn cael ei wobrwyo gydag arddangosfa gyfan mewn oriel yng Nghastell-nedd flwyddyn nesaf.

Gus Payne, yr arlunydd o Ferthyr Tudful, ddaeth i’r brig yn y gystadleuaeth gan grŵp YesCymru Pen-y-bont ar Ogwr.

Bu i 55 gystadlu, a thrwy gydol mis Tachwedd mae’r darnau hynny i gyd yn cael eu harddangos yn Oriel Heol y Frenhines yng Nghastell-nedd fel rhan o arddangosfa ‘Celf Annibyniaeth’.