Fe fydd arweinwyr Plaid Cymru yng Nghaerdydd a San Steffan yn dadlau y dylai Cymru gael cydraddoldeb pwerau â’r Alban.
Bydd Rhun ap Iorwerth a Liz Saville Roberts yn cyflwyno’u hachos i Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, gan alw am Fil Cymru newydd fyddai’n sicrhau bod gan Gymru hawliau sy’n gyfartal â’r rheiny sydd gan yr Alban.
Ar drothwy’r cyfarfod, fe fu Rhun ap Iorwerth yn galw am “Fil Cymru yn seiliedig ar gynsail cydraddoldeb pwerau gyda’r Alban”
Bydd y ddau hefyd yn dadlau dros ddileu Fformiwla Barnett, a chyflwyno model ariannu teg sy’n sicrhau arian i Gymru yn ôl angen ac nid ar sail maint y boblogaeth.
Yn ôl Rhun ap Iorwerth, mae “Cymru’n haeddu ei chyfran deg”, ac mae a wnelo’r mater â “sicrhau’r pwerau sydd gwirioneddol eu hangen i wella bywydau pobol sy’n byw yma”.
Y Gyllideb
Yn dilyn Cyllideb sydd wedi’i disgrifio gan Rhun ap Iorwerth fel un “niweidiol” sy’n “bygwth swyddi, darparwyr gwasanaethau cyhoeddus, y fferm deuluol, ac elusennau”, dywed y dylai’r Ysgrifennydd Gwladol ddangos bod “ganddi gwir fuddiannau Cymru wrth galon”.
Ymhlith y pwerau sydd gan yr Alban ond nid Cymru ar hyn o bryd mae:
- Trafnidiaeth: Mae gan yr Alban awdurdod dros seilwaith rheilffyrdd, tra nad yw Cymru yn rheoli ei rheilffyrdd ei hun nac yn derbyn cyllid cyfatebol ar gyfer seilwaith. Mae’r Alban yn derbyn ffactor cymaroldeb Barnett 100% ar gyfer buddsoddiad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig mewn prosiectau rheilffordd yn Lloegr. Dim ond ffactor cymaroldeb Barnett o 33.5% roddodd Datganiad Cyllid Cymru 2024 i Gymru. Mae biliynau o bunnoedd yn ddyledus i Gymru o ganlyniad i brosiect HS2, ac mae Plaid Cymru yn parhau i frwydro i unioni’r annhegwch hwn.
- Ystâd y Goron: Cafodd rheolaeth ystâd y goron ei datganoli i’r Alban yn 2017, sy’n golygu gall yr Alban wneud y mwyaf o botensial ei hadnoddau, a bod refeniw yn cael ei ddychwelyd i Gaeredin yn hytrach na San Steffan. Mae’r ystâd yn cynnwys prydlesu gwely’r môr hyd at 12 milltir o’r arfordir, 37,000 hectar o dir gwledig, hawliau i’r mwyafrif o aur ac arian sy’n cynhyrchu yn naturiol, a thua hanner blaendraeth yr Alban. Mae’r holl refeniw o Ystâd y Goron Cymru yn mynd i Drysorlys y Deyrnas Unedig, gyda chyfran wedyn yn cael ei drosglwyddo i Balas Buckingham.
- Cyfiawnder a Phlismona: Mae’r Alban yn rheoli ei system gyfiawnder, gan gynnwys plismona, llysoedd, a’r fframwaith cyfreithiol. Yng Nghymru, fodd bynnag, mae’r rhain yn parhau i fod o dan reolaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac mae awdurdodaeth gyfreithiol ‘Cymru a Lloegr’ yn parhau i fod yn ei lle er bod gan y Senedd bwerau deddfu sylfaenol ers 2006.
- Ynni: Er bod Deddf Cymru 2017 wedi datganoli pwerau i Lywodraeth Cymru gydsynio ar orsafoedd cynhyrchu trydan hyd at 350MW, yn yr Alban mae’r holl benderfyniadau ar brosiectau seilwaith ynni newydd wedi’u datganoli gyda cheisiadau dros 50MW i Lywodraeth yr Alban. Ar hyn o bryd, mae Cymru yn gyfyngedig yn ei gallu i reoli ei hadnoddau adnewyddadwy ei hun.
- Trethiant: Mae senedd yr Alban yn gosod cyfraddau a bandiau treth incwm yn yr Alban, sy’n penderfynu’r cyfraddau treth incwm sy’n daladwy gan drethdalwyr yr Alban ar fathau penodol o incwm. Mae gan Gymru rai pwerau dros dreth incwm, ond ni all y Senedd newid y bandiau treth incwm. Mae angen yr hyblygrwydd hwnnw, i adeiladu system dreth decach dros amser, ac i sicrhau trethiant is i’r lleiaf cyfoethog.
- Lles: Mae gan yr Alban bwerau dros fudd-daliadau lles penodol, gan alluogi cefnogaeth wedi’i deilwra i’w dinasyddion mwyaf bregus – pŵer sydd ar goll i Gymru ar hyn o bryd. Mae’r Alban eisoes wedi gwneud ymyriadau gwrth-dlodi llwyddiannus gyda chefnogaeth o’r fath, gan helpu cannoedd o filoedd o deuluoedd yn yr Alban bob blwyddyn. Does gan Gymru ddim pwerau dros les.
‘Cymru’n haeddu ei chyfran deg’
“Mae Cymru’n haeddu ei chyfran deg,” meddai Rhun ap Iorwerth.
“Mae ein galwad am gydraddoldeb gyda’r Alban yn ymwneud â sicrhau’r pwerau sydd wirioneddol eu hangen i wella bywydau’r bobol sy’n byw yma.
“Mae’n hen bryd i ni gael cae chwarae gwastad o fewn y Deyrnas Unedig.
“Mae’r Alban wedi dangos sut y gellir defnyddio’r pwerau hyn i wasanaethu’r bobol yn well.
“Mae system fudd-daliadau datganoledig wedi gwarchod pobol yn yr Alban rhag rhai o gyfnodau o lymder mwyaf creulon San Steffan, tra bod Ystâd y Goron Ddatganoledig yr Alban yn buddsoddi’n uniongyrchol mewn cymunedau arfordirol difreintiedig.
“Os gall yr Alban wneud hynny, pam ddim Cymru?
“Yn sgil Cyllideb niweidiol, sy’n bygwth swyddi, darparwyr gwasanaethau cyhoeddus, y fferm deuluol, ac elusennau, ac yn gweld cyfran y cyllid trafnidiaeth yn gostwng unwaith eto, mae angen tystiolaeth arnom fod gan yr Ysgrifennydd Gwladol gwir fuddiannau Cymru wrth galon.
“Byddwn yn ei hannog i gyflwyno Bil Cymru yn seiliedig ar gynsail cydraddoldeb pwerau gyda’r Alban.
“Byddwn hefyd yn gwneud yr achos dros gael gwared â Fformiwla Barnett a chyflwyno model ariannu teg sy’n ariannu Cymru yn ôl angen, nid poblogaeth.
“Er lles pobol Cymru, rwy’n gobeithio y bydd hi’n gallu cytuno â mi ar yr angen am y math yma o weithredu.”
‘Newid’
“Daeth Llafur i rym ar gefn neges o newid,” meddai Liz Saville Roberts.
“Fe wnaethon nhw addo’r trosglwyddiad fwyaf erioed o bwerau o San Steffan.
“Nid ydym wedi gweld unrhyw dystiolaeth eto bod gan Lafur ddiddordeb mewn cryfhau datganoli.
“Yn y Senedd ddiwethaf, cyflwynais Fil Ystâd y Goron (Cymru), fyddai’n gweld Cymru’n cael ei drin yn unol â’r Alban ar reolaeth Ystâd y Goron.
“Er i Lafur yng Nghymru ddweud yn gyhoeddus eu bod yn cytuno â ni, ni welwyd unrhyw ysgogiad.
“Byddaf yn cyflwyno’r achos unwaith eto y gallai’r pwerau hyn fod yn drawsnewidiol i’n cymunedau sydd wedi eu gadael ar ôl.
“Os na fydd Llafur yn manteisio ar y cyfle yma i gyflawni gwelliannau sylweddol i fywydau pobol, bydd yn dystiolaeth bellach nad yw’n gwneud fawr o wahaniaeth os yw llywodraeth San Steffan yn goch neu’n las.
“Dim ond gyda mwy o bwerau y gallwn greu dyfodol tecach i’n cymunedau.”