Bydd disgyblion ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn cymryd rhan yn rowndiau terfynol cystadleuaeth Fformiwla 1 fyd-eang i ysgolion, bedair blynedd ers cychwyn eu taith ar y cynllun.
Mae Tîm Hypernova, sy’n cynnwys chwe disgybl o’r ysgol, eisoes yn bencampwyr y gystadleuaeth yng ngwledydd Prydain.
Wrth ddatblygu eu sgiliau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg), mae’r gystadleuaeth F1 i ysgolion yn annog disgyblion i ddylunio a gweithgynhyrchu car F1 bach gan ddefnyddio meddalwedd dylunio, technegau gweithgynghyrchu a chymorth cyfrifiadurol.
Y nod yw creu’r car cyflymaf posibl, ac mae’r timau’n cael eu hasesu yn seiliedig ar eu dyluniadau, eu sgiliau peirianneg, eu cyflwyniadau llafar a’u harddangosfa.
Yng nghystadleuaeth y Deyrnas Unedig eleni, Tîm Hypernova oedd â’r amser trac cyffredinol cyflymaf.
Fe enillon nhw’r Wobr Farchnata a Nawdd ar gyfer y Dosbarth Proffesiynol, ac fe gawson nhw eu henwebu ar gyfer y Wobr Rheoli Prosiect.
Cyfle i gynrychioli’r Gymraeg
Dywed Carys, rheolwr prosiect Hypernova, fod cymryd rhan yn y gystadleuaeth wedi bod yn “werth chweil”, a bod y cyfle i gydweithio fel tîm wedi ei galluogi i addasu i anghenion gwahanol aelodau.
“Mae’r gystadleuaeth hon wedi dangos i mi fy mod yn mwynhau STEM, yn enwedig yr ochr gyfathrebu,” meddai.
“Rwy’n bwriadu astudio meddygaeth, a phe na bawn i wedi cael y profiad hwn, mae’n debyg na fyddwn i wedi ystyried hynny fel gyrfa.
“Dyma’r tro cyntaf hefyd imi fynd dramor, a dw i’n teimlo mor gyffrous.
“Mi fydd yna dimau yn cystadlu o bob rhan o’r byd, a bydd yn braf cysylltu â nhw ynghylch y pynciau rydyn ni’n teimlo’n angerddol yn eu cylch.
“Ni yw’r ysgol cyfrwng Cymraeg gyntaf i gystadlu, ac mae’n destun balchder i ni ein bod ni’n gallu hyrwyddo’r iaith a dangos bod Cymru yn gallu gwneud yn dda ym maes STEM.”
STEM yn bwysig yng Nghymru
Dywed Lynne Neagle, Ysgrifennydd Addysg Cymru, ei bod hi’n “hynod falch o’r dysgwyr a’r gwaith caled maen nhw wedi’i wneud ar gyfer y gystadleuaeth hon”.
“Dw i am eu llongyfarch yn galonnog,” meddai.
“Mae STEM yn chwarae rhan bwysig iawn yng Nghymru, ac mae hon yn ffordd wych a chyffrous i ddysgwyr wella eu sgiliau.
“Dw i’n dymuno’r gorau iddyn nhw yn rownd derfynol y byd.
“Pob lwc!”