A hithau’n Ddiwrnod y Rhuban Gwyn (dydd Llun, Tachwedd 25), mae Llywodraeth Cymru’n galw ar ddynion i sefyll o blaid rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched.
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Dileu Trais yn erbyn menywod, mae ymgyrch fyd-eang o 16 Diwrnod o Weithredu’n cael ei lansio er mwyn rhoi terfyn ar drais ar sail rhywedd.
Rhwng 2018 a 2023, roedd cynnydd o 37% yn nifer yr achosion o drais yn erbyn menywod a merched gafodd eu cofnodi yng Nghymru.
Mae o leiaf un ym mhob deuddeg o fenywod yn profi trais gan ddynion bob blwyddyn, yn ôl cofnodion, gyda’r niferoedd go iawn yn debygol o fod yn uwch.
Mae gan Lywodraeth Cymru ymgyrch ‘Iawn’, ymgyrch sydd yn “ymgysylltu â dynion ifanc a bechgyn ledled Cymru ynghylch parch ac atebolrwydd”.
Gyda’r ymgyrch yn mynd i’r afael â materion megis gaslighting a rheolaeth drwy orfodaeth, mae’n defnyddio modelau rôl cadarnhaol er mwyn hyrwyddo cydberthnasau iach a pharchus.
Pe bai modd i’r Llywodraeth ddal sylw 95% o ddynion ifainc Cymru, sy’n cyfateb i fwy na 380,000 o bobol, yna byddai modd iddyn nhw “herio diwylliannau niweidiol a chreu cymdeithas lle gall menywod deimlo’n ddiogel”, medden nhw.
‘Nid yw trais yn erbyn menywod a merched yn anochel’
Dywed Jane Hutt, Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru, fod gan bob menyw “yr hawl i fyw heb ofn, trais a chamfanteisio”, a bod modd atal trais yn erbyn menywod a merched, gan bwysleisio nad yw’n anochel.
“Mae ein Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn cynnwys ymrwymiad i roi blaenoriaeth i ymyrraeth gynnar ac atal, gan annog newid ymddygiad ymhlith y rhai sydd mewn perygl o fynd ymlaen i ymddwyn yn ymosodol,” meddai.
“Mae ymgyrch ‘Iawn’ yn annog dynion 18-34 oed yng Nghymru i ddysgu am drais ar sail rhywedd, ac i feddwl am eu hymddygiad eu hunain.
“Nid lle menywod yw newid eu hymddygiad; mater i ddynion a bechgyn yw ystyried y materion hyn eu hunain a gwneud newidiadau.”
‘Gallwn ni gyfrannu at roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched’
Wrth i ymgyrch ‘Iawn’ bartneru gyda’r Rhuban Gwyn i lansio canllaw Ffrind Iawn, mae modd addysgu dynion ifainc ynglŷn â’r camau ymarferol mae modd eu cymryd i “gefnogi menywod a herio ymddygiad niweidiol”.
Un sydd eisoes wedi sylweddoli pwysigrwydd cyfathrebu mewn perthynas iach, wedi iddo ymwneud ag ymgyrch ‘Iawn’, yw Cal Roberts o Sir y Fflint.
Wedi iddo brofi cyfnod yn ei fywyd pan nad oedd ei ymddygiad o fewn ei gydberthasau rhamantus yn iach, mae bellach yn ymdrechu i asesu ei ymddygiad tuag at ei bartner presennol.
Dywed fod deall yr hyn sy’n gwneud perthynas yn un iach yn “allweddol” er mwyn adnabod ymddygiadau fel casineb a dirmyg at fenywod, gaslighting neu fomio â chariad.
Ychwanega fod y gweithredodd hyn yn “bethau na fyddai rhywun efallai wedi sylweddoli eu bod yn niweidiol”.
“Pan ydych chi’n gwybod pa mor niweidiol yw’r ymddygiadau hyn, gallwch ddechrau eu herio a sicrhau nad ydych chi’n cyfrannu at y broblem,” meddai.
“Pe bai Iawn wedi bod o gwmpas pan oeddwn i yn fy ugeiniau, dw i’n meddwl y byddai fy mhroblemau wedi’u datrys yn gynt o lawer ac wedi gwneud imi fynd i’r afael â fy ymddygiad yn llawer cynt.
“Mae angen i bob un ohonon ni ddeall y gallwn ni gyfrannu at roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched, a bod yn rhaid inni wneud hynny.
“Dyma sut rydyn ni’n dechrau gwneud newidiadau gwirioneddol a pharhaol.
“Mae’r cyfan yn dechrau gydag un weithred, un sgwrs – ac mae’n gwneud byd o wahaniaeth.”