Daeth cadarnhad ddydd Gwener (Tachwedd 22) fod un o glybiau cerddoriaeth fyw amlycaf Caerdydd wedi cau ei ddrysau am y tro olaf.

Mae’r clwb The Moon, agorodd ar Stryd Womanby ger Castell Caerdydd yn y 1970au, wedi bod yn hwb i nifer o artistiaid ar ddechrau eu gyrfaoedd.

Yn eu plith mae rhai o enwogion presennol y sîn yng Nghymru, fel Panic Shack ac Adwaith.

Ystod anferthol

Wrth siarad â golwg360, dywed Ed Townend fod cau’r Moon yn golygu bod bwlch mawr yn sîn gerddoriaeth y brifddinas.

“Mi fydden ni’n gweithio gyda myfyrwyr, gyda bandiau oedd yn trefnu eu gigs cyntaf,” meddai, wrth drafod amrywiaeth y digwyddiadau fyddai’n cael eu cynnal yn The Moon.

“Ac wedyn, gyda bandiau mawr oedd ar daith hefyd.

“Yr unig rwystr ar be’ roedden ni’n medru ei gynnal oedd capasiti’r safle.

“Doedd dim un genre penodol nac unrhyw beth felly – roedden ni’n cynnal nosweithiau canu gwerin, nosweithiau barddoniaeth, a beth bynnag arall ro’n ni’n meddwl oedd yn addas ar gyfer y safle ac at ddant y cwsmeriaid.

“Yn bennaf, roedden ni wir yn awyddus i gefnogi bandiau ifainc fyddai ddim yn cael cyfle i chwarae’n unlle arall.

“Roedd ystod anferthol o fandiau’n chwarae yno – fe ges i weithio â rhai o’r hyrwyddwyr mwyaf yn y diwydiant, fel [y cwmni Americanaidd] Live Nation, yn ogystal â bandiau myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd!

“Fel technegydd, mi oeddwn i bron â bod yn hyfforddi’r bandiau ifanc yma am sut beth oedd cynnal gig.

“Doedd dim disgwyl i’r bandiau yma fod yn berffaith, a’r unig ffordd fydden nhw’n gwella fyddai trwy fod ar lwyfan yn chwarae o flaen cynulleidfa.

“Mi fydden ni’n eirioli’r bandiau ifanc yma drwy eu gwahodd nhw i berfformio yn yr un digwyddiadau â bandiau mwy, fel eu bod nhw’n medru sefydlu’r cysylltiadau yna sydd mor bwysig yn ein diwydiant ni.”

‘Oeraidd’

Roedd Stryd Womanby yn arfer cael ei hadnabod fel calon gerddorol y brifddinas.

Yn 2017, fe fu ymgyrch lwyddiannus i achub clybiau cerddorol y stryd rhag datblygiadau mawr fyddai’n eu bygwth.

Roedd sôn am gau’r Moon bryd hynny, ond diolch i gymorth ariannol gan gefnogwyr y clwb, fe lwyddodd i oroesi.

Ond bellach, mae wedi gorfod cau’n derfynol.

Dim ond clwb roc Fuel a Chlwb Ifor Bach sy’n weddill ar Stryd Womanby fel lleoliadau lle caiff cerddoriaeth fyw ei pherfformio bellach.

“Dw i’n credu bod y dyfodol yn edrych yn reit oeraidd i gerddoriaeth lawr gwlad yng Nghaerdydd,” meddai Ed Townend wedyn.

“Does dim syniad gen i lle fydd pobol yn mynd o hyn ymlaen.

“Mae llefydd bychain yn bodoli yng Nghaerdydd.

“Mae Tiny Rebel [ar Stryd y Porth] a Sustainable Studio [ar Stryd Tudor] wedi dod i’r amlwg yn ddiweddar, ac mae Le Pub yng Nghasnewydd a Chwrw yng Nghaernarfon yn safleoedd gwych hefyd.

“Ond does dim byd sydd â’r un isadeiledd a hygyrchedd ag oedd gan The Moon.”

Cyngor Caerdydd yn “gymorth anferthol”

Wedi Ymgyrch Achub Stryd Womanby yn 2017, a chau’r clwb Gwdi-hw cyfagos yn 2019, fe gomisiynodd Cyngor Caerdydd adroddiad ar gefnogi’r diwydiant cerddorol yn y brifddinas.

Ymhlith argymhellion yr adroddiad roedd gwahodd safleoedd llai o faint i fod yn rhan o Ŵyl Dinas Cerdd Caerdydd.

Ym mis Medi eleni, fe addawodd y Cyngor gyllid i gefnogi safleoedd bychain fel The Moon, fel rhan o’u gweledigaeth ar gyfer hybu cerddoriaeth lawr gwlad.

Ond mae’n ymddangos nad yw’r ymdrechion hyn wedi bod yn ddigon i achub The Moon.

“Fe gaethon ni gynnig cyllid i gynnal digwyddiadau’n ystod yr ŵyl gerddoriaeth,” meddai Ed Townend.

“Roedd hynny’n golygu bod cyfle gennym ni i drefnu sioeau fyddai, fel arall, yn risg lle byddai modd defnyddio poblogrwydd yr ŵyl i gael cynnal pethau fyddai ddim yn denu cynulleidfa fawr fel arfer.

“Roedd modd hefyd i ni gynnal digwyddiad gyda bandiau dan oed, fyddai fel arfer yn amhosib oherwydd cymhlethdod trefnu’r fath yna o drwydded a phrinder yr arian fyddai’n cael ei ennill wrth y bar.

“Mae rhoi cyfle i artistiaid ifainc cyn iddyn nhw droi’n ddeunaw’n beth gwych – mae’n hynod bwysig gwneud hynny.

“Un o’r pethau mwyaf dw i wedi’i glywed ers i ni gyhoeddi ein bod ni’n cau ydy pobol yn cwyno nad yw’r Cyngor yn gwneud dim i’n cefnogi ni.

“Ond y gwir ydy, mae Cyngor Caerdydd wedi bod yn gymorth anferthol i ni.

“Fe gaethon ni gefnogaeth ariannol ganddyn nhw yn ystod Covid, ym mis Ionawr eleni, ac ym mis Hydref eleni.

“Yn amlwg, dyw e heb fod yn ddigon, ac efallai y dylai Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd fod wedi canolbwyntio’n fwy ar safleoedd llawr gwlad, ond mewn gwirionedd dydw i ddim yn gweld llawer o fai ar y Cyngor, sy’n amlwg dan straen ariannol hefyd.”

Serch hynny, mae’n beirniadu ymrwymiad y Cyngor i gydweithio gyda hyrwyddwyr mawr fel Live Nation, “sydd ddim angen eu cefnogaeth nhw o gwbl”.

“Mae Live Nation yn ennill biliynau a biliynau o bunnoedd drwy godi prisiau’n ddiangen ar docynnau,” meddai.

“Pam ddylai’r Cyngor, ddylai fod yn ein cefnogi ni yng Nghaerdydd, fod yn ariannu’r math yna o beth?”

‘Anodd’

Fe ddaeth y penderfyniad i gau’n sydyn, ac roedd yn siom i nifer o ffans cerddoriaeth ledled y de.

Bu’n rhaid canslo digwyddiadau oedd wedi’u trefnu hyd at fis Mehefin flwyddyn nesaf hefyd.

Dydy Ed Townend ddim yn gallu trafod manylion penodol y penderfyniad i gau’r clwb eto, ond mae’n ymddangos mai heriau ariannol yn sgil dirywiad yn nifer y cwsmeriaid wedi’r pandemig ydy’r prif achos.

“Mae pawb sy’n gwybod eu stwff am gynnal digwyddiadau cerddoriaeth yn fyw yn gwybod pa mor anodd mae pethau ar hyn o bryd, ac felly mae’r tebygolrwydd y bydden nhw’n fodlon cynnal mwy hyd yn oed yn llai.

“Er fy mod i’n caru cerddoriaeth gymaint, dw i ddim yn siwr y byddwn i’n derbyn swydd arall debyg i’r un oedd gen i yn The Moon, oherwydd pa mor anodd oedd pethau a faint o heriau roedden ni’n eu hwynebu bob mis.

“Ar y naill llaw, mae dirywiad am fod gwell gan gymaint o bobol aros adre’ a gwylio Netflix y dyddiau yma – sy’n ddigon teg, wrth gwrs – yn hytrach na mynd ma’s unwaith, ddwywaith bob wythnos fel fydden nhw.

“Ar y llaw arall, wedyn, mae pobol yn dewis cynilo’u harian er mwyn prynu un tocyn mawr £400 bob blwyddyn i weld Taylor Swift neu bwy bynnag, yn hytrach na gwario £5 neu £10 bob wythnos i wylio bandiau llai.

“Ar y cwmnïau hyrwyddo mawr mae’r bai unwaith yn rhagor am y prisiau gwirion hynny.

“Dw i ddim yn rhagweld llawer o hyfywedd ariannol i glybiau bychain bellach.

“Yr unig ffordd fedren nhw oroesi ydy gyda chefnogaeth y Llywodraeth.

“Does dim elw i’w gael yma.”

Mae cronfa i gefnogi staff The Moon bellach wedi cael ei sefydlu hefyd.