Bydd Tara Bandito yn rhyddhau fersiwn ‘Deluxe’ o’i halbwm sy’n dwyn ei henw, gyda pherfformiadau byw a thraciau bonws unigryw, yr wythnos nesaf fel ffordd o ddiolch am y gefnogaeth mae hi wedi’i chael yn ystod cyfnod anodd yn ei bywyd.

Ar ôl rhyddhau ei sengl gyntaf ‘Blerr’ (Recordiau Côsh) yn 2022 a chyhoeddi albwm, teithiodd hi i Taiwan i berfformio’r gerddoriaeth yn fyw, a chafodd hi gryn ymateb gan gynulleidfaoedd yno.

Ar fersiwn ‘Deluxe’ o’r albwm, mae yna ganeuon hefyd sydd wedi cael eu hailwampio i’r Gymraeg, a dwy gân fyw o rai o’i gigs mwyaf cofiadwy.

Mae Tara Bandito – Deluxe ar gael yn ddigidol, ar finyl a CD, gyda’r fersiynau finyl a CD yn cynnwys perfformiad byw o ‘I Do’, ynghyd â recordiad byw o ‘Datblygu’ fel teyrnged i’r band Cymraeg eiconig o’r un enw.

Yma, mae Tara Bandito yn rhannu sut y bu iddi gyfarfod â Dave o’r band am y tro cyntaf, a’r ffordd y gwnaeth ei hysbrydoli i ddechrau recordio’i cherddoriaeth ei hun.

Mae’r fformat digidol hefyd yn cynnwys fersiynau Cymraeg o’r caneuon poblogaidd ‘Woman’ (‘Dynes’), ‘Unicorn’ (‘Iwnicorn’) ac ‘I Do’ (‘Wyt ti?’).

Diwedd pennod anodd

Dywed fod recordio’r albwm yn 2021 yn dod â phennod hir o alaru, iachau a darganfod ei hun i ben, yn dilyn marwolaeth ei thad, y reslwr Orig Williams (El Bandito).

“O unigrwydd bregus ‘6 feet Under’ i adnabod fy hun yn ‘Iwnicorn’, dyma’r rollercoaster creadigol o’n i angen i ryddhau fy hun o’r diwedd,” meddai.

“Roedd y broses o sgwennu a chreu’r albwm yn teimlo mor bersonol a bywgraffiadol; wnes i erioed feddwl y byddai fy ngeiriau yn taro deuddeg gyda chymaint o bobol.

“Fe wnaeth helpu i adnabod fy mhŵer a darganfod fy hun eto.

“Cymerodd ddegawdau i fi sylweddoli ei fod yn iawn i fod yn fi fy hun yn ei holl gymhlethdodau blêr, a dw i’n falch fy mod wedi gallu cynhyrchu rhywbeth yn llawn gwirionedd mae pobol wedi gallu cysylltu ag o.

“Wrth i bwysau cymdeithasol cynyddol orfodi i ni fyw bywydau ffals yn llawn filters a fillers, dyma fy ffordd fach i o gyfleu ei bod hi’n bosib inni fod yn driw i ni ein hunain, os ydyn ni’n ddigon dewr.

“Mae dychwelyd at yr albwm a rhoi egni newydd iddi yn ffordd o ddweud ’diolch’ i bawb sydd wedi cefnogi, credu, rhannu a bod yno, gan droi be’ ddechreuodd fel cam i’r tywyllwch yn daith hudolus tuag at y golau.”

Canu yn Gymraeg

Ar ôl teimlo egni a neges ‘Unicorn’ a ‘Woman’ o’r newydd, penderfynodd Tara Bandito fynd ati i’w canu yn Gymraeg – “fel y gallwn deimlo fy mod wedi gwreiddio yn llwyr yn y geiriau”.

“Es i nôl i’r stiwdio i’w recordio nhw eto yn y Gymraeg, ac roedd o’n teimlo mor dda,” meddai.

“Mae hyn, ynghyd â gallu rhannu rhai o’r perfformiadau byw mwyaf cofiadwy, yn deimlad arbennig iawn.”

Wedi’i rhyddhau’n wreiddiol y llynedd, cafodd yr albwm ei chanmol am gyfuniad unigryw o synthpop, gyda themâu hunangofiannol beiddgar ond hynod bersonol.

Ar ôl teithio’i cherddoriaeth o Gymru i Asia, fe wnaeth ei pherfformiadau byw hudo cynulleidfaoedd, gyda DJs fel Huw Stephens a Bethan Elfyn yn ei disgrifio fel un o’r artistiaid byw gorau i’w gwylio, gyda’i chyfuniad unigryw o “pop indie electronig iwfforig.”

Bydd yr albwm, sy’n cael ei gyhoeddi trwy Recordiau Côsh ar Dachwedd 27, ar gael i’w ffrydio a’i lawrlwytho ar bob prif lwyfan digidol.

Bydd modd prynu’r fformatau finyl a CD trwy wefan Tara Bandito, sy’n edrych ymlaen at gael rhyddhau rhagor o draciau’r flwyddyn nesaf.

“Dw i mor hapus i allu rhoi egni newydd i albwm sydd wedi golygu cymaint i gymaint o bobol ac i fi yn bersonol, cyn symud ymlaen at sŵn a cherddoriaeth newydd y flwyddyn nesaf, gyda hyd yn oed mwy o wirionedd, Iwnicorns a gonestrwydd,” meddai.

“Fedra i ddim aros.”