Mae’r Gymraes ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth bobi The Great British Bake Off eleni wedi bod yn trafod yr heriau o fyw ag ADHD.
Cafodd Georgie Grasso o Sir Gaerfyrddin ei choroni’n bencampwr ym mhennod ola’r gyfres neithiwr (nos Fawrth, Tachwedd 26).
Dros y deg wythnos ddiwethaf, fe fu cynulleidfaoedd teledu ledled gwledydd Prydain yn ei gwylio hi a’i chyd-gystadleuwyr yn paratoi danteithion ac yn wynebu heriau di-ri.
Neithiwr, fe fu’n rhaid iddi hi a’r ddau gogydd arall ddaeth i’r brig bobi sgons a pharatoi te prynhawn, ac yna dylunio cacen â haenau fyddai’n addas at barti hafaidd.
Wedi clywed mai hi oedd yr enillydd, dywedodd hi fod “hyn yn wallgo!”
“Dw i’n methu credu’r peth!” meddai.
‘Rhyfeddod Cymreig’
Er bod sawl un o Gymru wedi ymddangos yn y rhaglen dros y pymtheg cyfres flaenorol, y nyrs o dras Eidalaidd ydy’r enillydd cyntaf o Gymru.
Wrth ganmol ei buddugoliaeth neithiwr, “rhyfeddod Cymreig” oedd y llysenw ddewisodd Paul Hollywood, un o feirniaid y rhaglen, ar ei chyfer.
Yr wythnos ddiwethaf, mewn neges ar wefan Instagram yn dathlu cyrraedd y rownd derfynol, dywedodd Georgie Grasso ei bod hi “mor falch o fod yn Gymraes ar hyn o bryd”, cyn ychwanegu “Cymru am byth!”
Gorchfygu heriau ADHD
Mewn neges arall ar Instagram wedi darlledu’r rhaglen neithiwr, soniodd Georgie Grasso am yr heriau mae hi’n eu hwynebu wrth fyw gydag ADHD, ac arwyddocâd ei buddugoliaeth yn sgil hynny.
“Fel menyw gydag ADHD, dw i wedi cael trafferth drwy gydol fy mywyd i… wrth geisio cwblhau unrhyw dasg,” meddai.
“I’r rheiny ohonoch chi sy’n profi niwrowahaniaeth, hunanamheuaeth, neu broblemau â’ch iechyd meddwl, hoffwn ddangos i chi bod modd trechu’r heriau yma i gyd, a gwneud yr hyn rydych chi am ei wneud.”