“Er mor galed ydi hi, mae’n rhaid dal ati i gyhoeddi yn y Gymraeg. Mae Cymru – a phlant Cymru – angen dweud ei stori. Mae angen gweisg er mwyn bod yn wlad.”
Dyna ran o’r hyn y bydd Myrddin ap Dafydd, un o gyfarwyddwyr Gwasg Carreg Gwalch, yn ei ddatgan gerbron Pwyllgor Diwylliant yn y Senedd heddiw (dydd Iau, Tachwedd 18).
Mae yno gydag eraill ar ran y sector gyhoeddi i ddarlunio effaith y toriadau o 25% sydd wedi bod ar arian cyhoeddi ers mis Ebrill eleni.
Mae’r cyhoeddwyr yn gobeithio dangos effaith y toriadau ar lythrennedd ac addysg plant, ac yn awgrymu rhai meysydd lle gall Llywodraeth Cymru “weithredu ar fyrder i unioni’r toriadau”.
Mae Myrddin ap Dafydd yn dweud bod y toriadau a chwyddiant wedi effeithio ar y sector ers 2010, ac mai hanner gwerth y grant bryd hynny yw’r arian sydd ar gael at gynhyrchu llyfrau heddiw.
Dywed yn ei gyflwyniad:
“Mae cwymp o tua 35% wedi bod yn nifer y llyfrau amrywiol sy’n cael eu cynhyrchu. Ers 2010, dan ni wedi gweld nifer o grantiau marchnata, elyfrau, bonwsus cyhoeddi ar amser yn diflannu. Yna yn Ebrill eleni torrwyd 25% o’n nifer o deitlau a 25% pellach o’n grantiau.”
Eleni yw’r “flwyddyn anoddaf ers 1980,” meddai, gan ychwanegu mai “hon oedd y gwelltyn olaf”.
“Mae nifer o weisg wedi sôn am roi’r gorau i fasnachu yn y dyfodol agos.”
‘Allwn ni ddim dal ati yn hir’
Mae Gwasg Carreg Gwalch yn ceisio gwneud rhagor o waith gwirfoddol ar ei gost ei hun “i leihau effaith toriadau’r Llywodraeth,” yn ôl Myrddin ap Dafydd.
Mae golygyddion llyfrau plant y wasg wedi creu dros 100 o adnoddau addysg yn seiliedig ar lyfrau’r wasg i’w rhannu am ddim, ac wedi cynnal pymtheg o sesiynau hyrwyddo mewn dosbarthiadau.
“Gwaith gwirfoddol, heb gymorth llywodraeth, oherwydd maint yr argyfwng yw hyn,” meddai.
“Mae’n waith ychwanegol, yn waith trwm ar ein staff sydd eisoes yn wynebu dyfodol ansicr.
“Nid yw’n gynaliadwy.”
Mae’n debyg fod dwy swydd wedi diflannu yng Ngwasg Carreg Gwalch ers mis Ebrill, a diwrnod yr wythnos wedi’i docio oddi ar oriau gwaith gweithwyr eraill.
Mae’r ddau gyfarwyddwr wedi cytuno y byddan nhw yn parhau i weithio am ddim yn y dyfodol agos, “ond allwn ni ddim dal ati yn hir,” meddai yn ei gyflwyniad.
“Mae diwedd y wasg a chau’r drysau am byth ar y gorwel. Mae’r un peth yn wir am weisg eraill.
“Gwlad heb weisg fydd Cymru yn fuan.
“A lle fydd llythrennedd plant, anghenion Cwricwlwm i Gymru, plant mewn tlodi, llesiant plant wedyn?”
Pwyslais ar sgriniau yn “hen ffasiwn ac aneffeithiol”
Cafodd golwg360 weld nodiadau Myrddin ap Dafydd ar gyfer ei gyflwyniad heddiw; ynddyn nhw, mae’n trafod cwymp mewn llythrennedd plant yng Nghymru, ac yn dadlau bod y diwydiant llyfrau yn rhan o’r byd addysg, o les ac iechyd, ac o economi Cymru.
“Y gwir amdani ydi bod darllen yn rhan o ofal iechyd ein plant,” meddai.
Mae’n trafod canlyniadau PISA 2022, sy’n dangos llythrennedd plant Cymru yr isaf o blith y 37 gwlad fwyaf datblygedig, ac yn honni bod Cymru ddwy flynedd a hanner ar ôl llythrennedd Iwerddon.
“Mae’r ffeithiau yn frawychus,” meddai.
Dyma rai ffyrdd y mae’r toriadau wedi cyfrannu at gwymp llythrennedd plant, ym marn Myrddin ap Dafydd:
- ysgolion ddim yn gallu galw ar awduron i ddod i ysgolion i hyrwyddo darllen ac ysbrydoli plant oherwydd nad oes arian ar ei gyfer gan Lenyddiaeth Cymru, “yn wahanol iawn i wledydd eraill”
- llyfrau ddim yn cael eu defnyddio fel deunydd gwersi gan nad oes adnoddau a gweithgareddau parod ar gael ar gyfer athrawon
- bod y pwyslais yng Nghymru o hyd ar ddefnyddio sgriniau digidol i geisio dysgu llythrennedd: “Mae hyn yn hen ffasiwn ac yn aneffeithiol,” meddai. “Mae gwledydd eraill wedi sylweddoli hyn ac wedi symud ymlaen at ddefnyddio llyfrau a sgrifennu ar bapur”’;
- Mae “cwymp enbyd” wedi bod yng ngwerthiant llyfrau plant: “Dyma’r genhedlaeth sy’n cael y mwyaf o gam oherwydd hynny,” meddai.
Yn ôl y cyhoeddwr, mae’r “sefyllfa bresennol wedi’i chreu gan fwy na thoriadau i gyllid y Cyngor Llyfrau”, ond yn cyd-fynd â newidiadau mewn comisiynu llyfrau at y Cwricwlwm i Gymru.
“Oherwydd hynny, does dim comisiynau addysg wedi dod i’r gweisg chwaith y flwyddyn hon felly doedd dim modd i’r gweisg gydweithio gydag Adran Addysg y Llywodraeth i liniaru effaith toriadau i gyllid y Cyngor Llyfrau,” meddai.
Mae hefyd yn gresynu bod cynllun ‘Awduron ar Daith’ Llenyddiaeth Cymru wedi gwanhau, a hwnnw wedi galluogi llenorion a beirdd i fynd i ysgolion a chymdeithasau.
“Heb lenorion yn cyfarfod eu cynulleidfaoedd, mae’r diddordeb mewn llyfrau yn gwanhau,” meddai.
‘Rhoi bri ar lyfrau’
O ran yr hyn y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud, y tu hwnt i roi rhagor o gyllid, i liniaru effaith toriadau ar y sector gyhoeddi, dywed Myrddin ap Dafydd fod llawer i’w ddysgu gan wledydd eraill – mae Slofenia, er enghraifft, yn wlad ifanc sy’n “buddsoddi’n helaeth yn ei diwydiant llyfrau”.
“Maen nhw’n gweld fod eu llyfrau yn hyrwyddo eu gwlad a chynnyrch eu gwlad, yn denu diddordeb busnesau tramor, yn denu ymwelwyr,” meddai.
“Mae posibiliadau di-ben-draw i ninnau drwy nofelau a llyfrau treftadaeth a llyfrau celf i hyrwyddo Cymru. Mae noddi’r diwydiant llyfrau yn hwb i’r economi gyfan.
Byddai “gweld Llywodraeth Cymru yn rhoi bri ar lyfrau… ac yn sylweddoli fod modd hyrwyddo gwlad, twristiaeth ryngwladol, hyrwyddo pob agwedd o ddiwylliant a chynnyrch drwy lyfrau yn gefnogaeth dderbyniol iawn.”
Dywed fod y wasg wedi gweld “fod plant chwech a saith oed yn dal i gael trafferth adnabod llythrennau am sôn am fedru darllen geiriau yn ystyrlon”.
Un o’i awgrymiadau, felly, yw bod Lynne Neagle, Ysgrifennydd Addysg Cymru, a’i thîm yn “ymweld ag ysgolion ar hap a chanfod hyn drosti’i hun”.
Dyma rai o’r pethau eraill mae’n awgrymu y dylai Lywodraeth Cymru eu gwneud:
- gosod rheol fod “canran o gyllid pob ysgol yn cael ei wario ar lyfrau ac ar weithdai awduron yn yr ysgol a sefydlu Clwb Darllen Hamdden ymhob ysgol”
- “Cyfrannu at godi proffil addysg ac athrawon yn gyffredinol yng Nghymru, a rhoi bri uwch ar lythrennedd – fel bod cymdeithas yn gyffredinol yn deall bod braint a chyfrifoldeb yw addysgu plant, a bod pawb yn rhan o’r ddyletswydd hwnnw, yn arbennig rhieni”
- gwneud mwy i hybu a hyfforddi rhieni i annog llythrennedd eu plant: “Er bod rhoi eu plant o flaen sgrin yn rhoi pum munud o lonydd i riant, gall achosi blynyddoedd o broblemau ymddygiad / canolbwyntio / lles / hunanddelwedd a chyfyngu plant yn y diwedd oherwydd y problemau hyn, tra fod llyfrau yn ehangu’r meddwl”
- “Codi safonau llythrennedd oedrannau ifanc ar fyrder drwy brofion effeithiol – dydi profion darllen digidol Blwyddyn 6 ddim yn gweithio”
- hybu athrawon “i wella eu sgiliau dysgu darllen”, gan ddangos gwerth “darllen ailadroddol, darllen adleisiol, darllen gyda’n gilydd, a darllen pâr”, ac annog hyfforddiant darllen disgyblaethol.
Wrth gloi, mae’r cyhoeddwr yn dweud bod “llythrennedd yng Nghymru yn cael ei danariannu gan nad ydi’r byd llyfrau a’r gweisg yn cael eu gweld fel elfennau hanfodol i lesiant”.
“Nid sôn am symiau anferthol ydan ni,” meddai.
“Byddai ychydig gannoedd o filoedd yn gwneud byd o wahaniaeth i weisg sydd wedi colli gwerth hanner eu hincwm ers 2010.”
Anrheg am Oes mewn “cyfnod llwm”
Ddiwedd Tachwedd, lansiodd Gwasg Carreg Gwalch ymgyrch ar y cyfrygau cymdeithasol o’r enw ‘Anrheg Am Oes’, i gymell pobol i roi llyfrau Cymraeg yn anrhegion, er mwyn hyrwyddo llythrennedd yng Nghymru.
Maen nhw’n croesawu pobol i rannu llyfr o’u plentyndod y cawson nhw fwynhad neu ddylanwad arbennig ohono, ynghyd â’r hashnod #anrhegamoes.
Ymhlith yr enwau amlwg sydd wedi ymateb mae Dyfed Evans, Angharad Tomos, Bethan Gwanas, Anni Llŷn, Rhian Cadwaladr a Marlyn Samuel.
“Mae hyn i gyd yn hwb i gyhoeddi yn y Gymraeg, ac i hyrwyddo llyfrau fel anrhegion Nadolig a hithau’n gyfnod llwm iawn ar gyhoeddi ar y funud,” meddai’r wasg.