Mae amddiffynnwr tîm pêl-droed Caerdydd wedi cyhoeddi fod ei ganser wedi diflannu, yn dilyn brwydr â lymffoma Non-Hodgkin.

Cafodd Sol Bamba, sy’n 36 oed, y diagnosis cyn y Nadolig, ac fe gyhoeddodd y clwb y newyddion ym mis Ionawr.

Derbyniodd Sol Bamba sawl rownd o gemotherapi, a’r mis yma chwaraeodd ychydig eiliadau olaf gêm Caerdydd yn erbyn Rotherham ar ôl dod oddi ar y fainc.

“Helo bawb, dim ond neges sydyn i roi gwybod fy mod i’n rhydd o ganser nawr! Mae’n newyddion calonogol iawn i fi a fy nheulu, wrth gwrs, ac rydyn ni ar ben ein digon ar hyn o bryd,” meddai’r pêl-droediwr ar Twitter.

“Dw i wir eisiau diolch i bob un sydd wedi bod yn fy nghefnogi, boed e drwy sylw, neges, hoffi, neu beth bynnag, rhoddodd hynny gryfder ychwanegol i mi fynd drwy hyn, yn bendant.

“Yn bennaf, dw i eisiau diolch i’r teulu yn y Gwasanaeth Iechyd sydd wedi gofalu amdanaf i cystal, byddaf yn ddiolchgar am eich gwaith am byth.

“Diolch i fy holl deulu, fy ffrinidau, ac wrth i’r gwrs, i’r clwb a phawb yn y diwydiant pêl-droed sydd wedi helpu fi wrth wynebu’r her yma.

“Dymunaf ddiwrnod bendigedig i chi gyd, a gobeithio y byddaf yn eich gweld yn ôl ar y cae yn fuan.”