Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, wedi dweud wrth golwg360 ei fod e a’r chwaraewyr yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu’r cefnogwyr i Stadiwm Liberty am y tro cyntaf ers 14 mis, tra bod un o’r cefnogwyr yn dweud y bydd yn achlysur “emosiynol”.

Bydd 3,000 o gefnogwyr yr Elyrch yn cael bod yn y stadiwm ar gyfer y gêm fawr yn erbyn Barnsley ddydd Sadwrn (Mai 22), ddyddiau’n unig ar ôl i 4,500 o gefnogwyr Barnsley gael bod yn Oakwell ar gyfer y cymal cyntaf.

Mae gan yr Elyrch fantais o 1-0 cyn dechrau’r gêm, ac mae Steve Cooper yn gobeithio manteisio ar gefnogwyr yr Elyrch i sicrhau buddugoliaeth a lle yn y rownd derfynol yn Wembley ddydd Sadwrn nesaf (Mai 29).

“Rydyn ni i gyd wedi cael 15 mis heb eu cael nhw yn y stadiwm,” meddai’r rheolwr wrth golwg360 yn ystod y gynhadledd i’r wasg wythnosol.

“Roedd hi jyst yn wahanol y noson o’r blaen yn dod allan i gynhesu a chael ein bŵio, ond gobeithio y cawn ni ein croesawu â bloedd ddydd Sadwrn, a chael y teimlad yna o, ‘O! Mae’r cefnogwyr yn ôl, dyma sut mae pethau fod!’

“I’r ddau dîm, hynny yw, a’r holl dimau yn y gemau ail gyfle.

“Mae’r Uwch Gynghrair wedi cael cefnogwyr yn ôl, a champau eraill hefyd.

“Dyma sut mae pethau fod, ac mae’n gam positif ymlaen eto.

“Mae’r ffaith ein bod ni gartre’ ddydd Sadwrn jyst yn destun cyffro, ac mae pawb yn edrych ymlaen.”

Profiad newydd i rai chwaraewyr

Nid pawb yn y tîm sydd wedi profi’r wefr o gael chwarae gartref o flaen y cefnogwyr, gyda rhai ohonyn nhw wedi ymuno â’r clwb yn ystod y cyfnod clo pan na fu’n bosib i’r cefnogwyr fynd i’r stadiwm.

Ond mae’n dweud bod gan yr Elyrch sawl chwaraewr hefyd sy’n hen gyfarwydd â phlesio’r dorf yn y Liberty.

“Dw i’n credu bod pawb yn wahanol,” meddai.

“Siaradais i â Liam Cullen y diwrnod ar ôl y gêm [yn Oakwell] ac fe ddywedodd e mai dyna’r tro cyntaf iddo fe ddechrau gêm o flaen y cefnogwyr i Abertawe.

“Ac mae’n gwneud i chi feddwl wedyn bod gyda chi chwaraewr fel Wayne [Routledge] yn dod ac mae e wedi’i wneud e filiwn o weithiau o’r blaen!

“Dw i’n credu bod pawb yn wahanol yn nhermau eu profiad o chwarae o flaen y cefnogwyr.”

‘Mae angen y cefnogwyr’

“Allwn ni ddim aros, a bod yn onest,” meddai Andre Ayew am groesawu’r cefnogwyr i’r stadiwm eto.

“Fel arfer, pan fyddwch chi’n cyrraedd y stadiwm – hyd yn oed oddi cartre’ – wrth i chi fynd i gynhesu, dydy’r cefnogwyr ddim i gyd yn y stadiwm, efallai un neu ddau.

“Ond pan gyrhaeddon ni yn Barnsley, erbyn i ni gynhesu, roedd 4,000 i mewn yn barod, felly roedd gwefr o’r amser wnaethon ni gynhesu.

“Roedden ni’n teimlo, ‘Waw! Mae e ’nôl’ ac rydych chi’n gwybod fod rhaid i chi fod yn barod, bydd pwysau oherwydd penderfyniadau’r dyfarnwr, bydd mwy o bwysau, ac os oes hanner cyfle [i sgorio], mae’r cefnogwyr yn gwneud iddo fe edrych fel mwy o gyfle.

“Felly mae llawer o bethau ar waith ond rydyn ni jyst eisiau i’n stadiwm ni fod yn well fyth nag yr oedd e iddyn nhw, ac rydyn ni’n gwybod sut beth yw’r Liberty ar gyfer y math yma o gemau.

“Rydyn ni’n gwybod na fydd pawb yno, a bydden ni fel chwaraewyr wrth ein boddau’n cael pawb yn ôl oherwydd bydden ni eisiau i’r stadiwm fod yn llawn ar gyfer y gêm, ond rydyn ni’n lwcus i gael rhai ’nôl.

“Dyma’r dechrau, a gobeithio bydd llawer mwy ohonyn nhw yn fuan ond galla i’ch sicrhau chi na all y chwaraewyr i gyd aros tan ddydd Sadwrn.

“Maen nhw eisiau teimlo eu bod nhw [y cefnogwyr] yn hapus gyda lle’r ydyn ni. Mae angen y teimlad yna ar bawb ac fe fydd eu hangen nhw arnon ni os ydyn ni am fynd drwodd oherwydd bydd dydd Sadwrn yn anodd iawn.

“Dw i’n gweld eisiau’r cefnogwyr.”

‘Emosiynol’

Un o’r cefnogwyr fydd yn y stadiwm yw Cath Dyer, fydd yn mynd gyda’i gŵr Mark a’u mab Andrew, ac mae’n dweud y bydd yr achlysur yn un “emosiynol”.

“Bydd hi’n gyffrous ac yn emosiynol cael bod yno,” meddai, cyn ychwanegu beth yn union mae hi’n edrych ymlaen ato fwyaf.

“Gweiddi fel ffans, gweld y tîm yn fyw a gweld ffrindiau o gwmpas y lle er bo ni’n ffaelu mynd lan a lawr y lle…

“Ond jyst bod yno’n mwynhau a chael y cyfle i fod ’nôl yn ein tŷ ni.”

Ar y cae, mae’n dweud bod “rhaid bod yn hyderus” am obeithion yr Elyrch.

“Ry’n ni hanner ffordd drwyddo nawr, ac mae’n rhaid i ni feddwl ein bod ni’n mynd amdani.

“Mae’r cyfle gyda ni, mae’r bois yn mo’yn ei wneud e ac mae’n rhaid i ni fynd amdani!”