Mae Morgannwg wedi dechrau’n gryf gyda’r bêl ar ddiwrnod cyntaf byr yn eu gêm Bencampwriaeth yn erbyn Caint yng Nghaergaint.

Ar ôl y glaw dros nos, roedd y cae yn wlyb a dim ond 22 o belawdau oedd yn bosib pan ddechreuodd y gêm am 4.30yp, gyda’r chwaraewyr yn gadael eto toc cyn 6 o’r gloch.

Er bod torf o 950 o bobol yn cael bod yn y cae am y tro cyntaf ers 2019 – 603 o ddiwrnodau – roedd cryn dipyn yn llai yno erbyn i’r gêm ddechrau.

Cyrhaeddodd Caint 50 heb golli wiced mewn 12.5 o belawdau yn dilyn partneriaeth agoriadol gref rhwng Ollie Robinson a Jordan Cox.

Ond tarodd yr Iseldirwr Timm van der Gugten ddwywaith heb ildio’r un rhediad mewn tair pelawd, wrth waredu Robinson am 43 a Zak Crawley, batiwr Lloegr, heb sgorio oddi ar wyth pelen.

David Lloyd oedd y maeswr ar gyfer y ddwy wiced, gyda’r gogleddwr yn cipio dau ddaliad yn y slip, un yn isel i waredu Robinson a’r llall yn gyfforddus yn syth i’w ddwylo i waredu Crawley.

Pan ddaeth y glaw am y tro olaf, roedd y tîm cartref yn 70 am ddwy ac mae Cox heb fod allan ar 26.

Ymateb

“Fe gawson ni’r pedwar tymor allan yno heddiw, ychydig o haul, ychydig o law, ychydig o wynt,” meddai Timm van der Gugten.

“Roedden nhw’n amodau heriol ac fe wnaethon ni ein gorau i’w tynnu nhw ’nôl ar ôl iddyn nhw ddechrau’n dda.

“Yn ffodus, fe ges i fowlio gyda’r gwynt ac roedd hi’n haws na dod i fyny’r tyle, ond dw i wedi bod yn hapus gyda’r ffordd rydyn ni wedi bod yn bowlio’n ddiweddar ac roedd hi’n braf cael cwpwl o wicedi.

“Roedd hi’n braf gweld y dorf ond wnaethon ni ddim eu clywed nhw ryw lawer.

“Roedden ni’n treulio’r amser yn gwneud croeseiriau ran fwya’r dydd ac yn dysgu geiriau newydd!

“Gobeithio bod y tywydd yn clirio am weddill y gêm ac y gallan nhw [y dorf] fwynhau rhywfaint o griced.”

Sgorfwrdd

Mae modd gwylio’r gêm yma

 

Torf o bobol yn cael gwylio Morgannwg yng Nghaint

Caint yw’r unig dîm maen nhw wedi’u curo y tymor hwn