Bydd tîm pêl-droed Merched Cymru yn herio’r Alban mewn gornest gyfeillgar ym Mharc y Scarlets ar Fehefin 15.

Hon fydd gêm olaf Cymru cyn iddyn nhw ddechrau eu hymgyrch i gymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd 2023.

Y tro olaf i’r ddau dîm wynebu ei gilydd oedd yng Nghwpan Cyprus 2017, gyda’r Alban yn ennill 6-5 ar giciau o’r smotyn yn dilyn gêm ddi-sgôr.

Mae’r Albanwyr, a gymhwysodd ar gyfer Cwpan y Byd 2019, yn y 23ain safle yn y byd tra bod Cymru’n 32ain.

Nid yw Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau faint o’r gloch fydd y gêm yn dechrau.

Ond bydd y gêm yn cael ei chwarae y tu ôl i ddrysau caeedig oherwydd cyfyngiadau coronafeirws.

“Rwy’n gyffrous iawn i fod gyda’r chwaraewyr eto,” meddai’r rheolwraig Gemma Grainger.

“Cawsom wersyll gwych ym mis Ebrill gyda dau berfformiad cystadleuol.

“Bydd yr Alban yn brawf gwych wrth i ni geisio parhau â’r cynnydd cyn i ymgyrch gymhwyso Cwpan y Byd ddechrau ym mis Medi.”