Mae Pencampwriaeth y Chwe Gwlad am barhau i gael ei ddangos ar deledu am ddim wedi i’r trefnwyr gytuno mewn egwyddor i barhau i ddangos y gemau ar y BBC ac ITV.

Ac mae S4C mewn trafodaethau i gael dangos y gemau hefyd.

Heddiw fe gyhoeddodd trefnwyr y Chwe Gwlad eu bod nhw mewn “trafodaethau egscliwsif” gyda’r BBC ac ITV ynghylch cytundeb yn cychwyn yn 2022 ac yn gorffen ar ddiwedd tymor rygbi 2025.

Byddai’r cytundeb newydd yn cynnwys Chwe Gwlad y dynion, y merched a’r twrnament dan 20.

Y disgwyl yw bydd y BBC yn dangos gemau cartref Cymru a’r Alban, ac ITV yn dangos holl gemau cartref Lloegr, Iwerddon, Ffrainc a’r Eidal.

Y BBC fydd yn dangos Chwe Gwlad y Merched a’r timau dan 20.

“Yn dilyn blwyddyn heriol i rygbi, mae’r ffaith fod y BBC ac ITV yn parhau i ymrwymo [i ddangos y gemau] yn cael ei werthfawrogi yn fawr wrth i ni geisio aildanio diddordeb cynulleidfaoedd cenedlaethol a meithrin pobol i chwarae’r gamp ar lawr gwlad.”

S4C?

Bydd gwylwyr S4C yn dyfalu beth yw oblygiadau’r cytundeb ar gyfer parhau i ddangos gemau Cymru ar y Sianel Gymraeg, a does dim wedi ei benderfynu hyd yma.

Dywedodd llefarydd: “Mae S4C mewn trafodaeth i ddangos gemau’r Chwe Gwlad a byddwn yn diweddaru’r gwylwyr cyn gynted â phosib.”