Mae nifer o gyhoeddwyr yng Nghymru yn ymuno o dan sefydliad newydd i gynrychioli’r sector.

Nod y corff ‘Cyhoeddi Cymru’ yw datblygu diwydiant cyhoeddi yng Nghymru a’i hyrwyddo “ar lwyfan y byd”.

Cafodd ei sefydlu gan grŵp craidd o gyhoeddwyr sy’n dweud eu bod am sefydlu hunaniaeth glir ar gyfer y sector.

Maen nhw bellach yn ymgynghori â’r holl gyhoeddwyr yng Nghymru ar dargedau a chynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Llwyfan i awduron a darlunwyr Cymreig

Mae Cyhoeddi Cymru yn dweud y byddan nhw’n cynnig llwyfan i arddangos gwaith awduron a darlunwyr Cymreig ar draws pob genre.

Bydd y sefydliad newydd yn gweithio’n ddwyieithog, gan gynrychioli’r diwydiannau cyhoeddi Cymraeg a Saesneg.

Bydd aelodaeth yn agored i gyhoeddwyr cymwys sydd â’u pencadlys yng Nghymru a bydd modd i sefydliadau cysylltiedig ymaelodi.

Mae’r sefydliad hefyd wedi derbyn cefnogaeth Cyngor Llyfrau Cymru.

“Croeso cynnes”

Wrth siarad am y sefydliad newydd, meddai Natalie Williams o Wasg Prifysgol Cymru: “Dim ond dechrau ein sefydliad newydd yw hyn ac mae’r aelodau a’i ffurfiodd yn awyddus i estyn croeso cynnes i bob cyhoeddwr yng Nghymru i ymuno â ni.

“Ein nod yw dod â chyhoeddwyr ledled Cymru at ei gilydd i uno’r sector, a chymryd cam mawr ymlaen o ran hybu presenoldeb diwydiant cyhoeddi Cymru ar lwyfan y byd.

“Rydym yn ddiolchgar iawn i’r llu o gyhoeddwyr sydd wedi rhoi o’u hamser yn ystod y cyfnod clo i sicrhau bodolaeth y fenter hon, ac ni allwn aros i weld beth y gallwn ni, gyda’n gilydd ac yn annibynnol, ei gyflawni drwy gryfder Cyhoeddi Cymru/Publishing Wales dros y blynyddoedd nesaf.”

“Meithrin talent”

Ychwanegodd Owain Saunders-Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr y cwmni cyhoeddi, Atebol: “Mae gan Gymru gymaint o dalent greadigol i’w chynnig.

“Mae’n hanfodol fel cenedl bod gennym yr hyder nid yn unig i feithrin y dalent honno’n lleol i gefnogi cymunedau lleol mewn ffordd gynaliadwy, ond hefyd i chwilio am gyfleoedd i gyrraedd ei llawn botensial.

“Mae gan gynnwys creadigol gymaint i’w gynnig o ran cyfoethogi bywyd bob dydd, mewn cymaint o ffyrdd.”