Mae straeon cyfoes am ddewrder dwy ferch wedi cipio’r prif wobrau ar gyfer llyfrau Cymraeg i blant a phobol ifanc yng Ngwobrau Tir na n-Og eleni.
Casia Wiliam sy’n fuddugol yn y categori cynradd gyda’r nofel Sw Sara Mai, gyda #helynt gan Rebecca Roberts yn dod i’r brig yn y categori uwchradd.
Bydd yr awduron yn derbyn gwobr ariannol o £1,000 yr un, yn ogystal â cherdd gomisiwn gan Fardd Plant Cymru, Gruffudd Owen.
Dyma’r tro cyntaf i Casia Wiliam a Rebecca Roberts ennill Gwobr Tir na n-Og.
“Llenwi bwlch pwysig”
Stori am ferch sy’n byw yn sw ei rhieni yw Sw Sara Mai, ac mae hi’n ei chael hi’n haws deall ymddygiad creaduriaid nag ymddygiad merched eraill yr ysgol.
Cafodd y ddau lyfr arall ar y rhestr fer, Ble Mae Boc? Ar Goll yn y Chwedlau gan Huw Aaron, ac Mae’r Cyfan i Ti gan Luned Aaron, ganmoliaeth uchel gan y beirniad hefyd.
“Dyma nofel sydd yn ymdrin â phwnc cyfoes gan ddelio â bwlio a rhagfarn yn erbyn pobl o gefndir neu dras wahanol,” meddai Cadeirydd y panel beirniaid, T Hywel James, am Sw Sara Mai.
“Mae’n gyfrol sydd yn llenwi bwlch pwysig yn y ddarpariaeth ar gyfer yr oedran ac yn gam yn y cyfeiriad cywir er mwyn adlewyrchu yn well y Gymru amrywiol a chynhwysol o’n cwmpas.”
“Wedi gwirioni!”
“Dw i wedi gwirioni! Dw i’n darllen gwaith gan awduron sydd wedi ennill Gwobr Tir na n-Og ers ’mod i’n ddim o beth, a dw i’n methu coelio ’mod i yn yr un cae â nhw!” meddai Casia Wiliam, sy’n byw yng Nghaernarfon.
“Rydw i hefyd yn hynod o falch o Sara Mai – hi ydi’r enillydd go-iawn. Mae mor bwysig bod Cymry bach sydd yn ddu neu’n hil-gymysg yn gweld eu hunain yn brif gymeriadau mewn llyfrau Cymraeg, felly mae’n golygu cymaint i mi fod y llyfr wedi derbyn y gydnabyddiaeth arbennig yma.”
“Anrhydedd” ac “uchafbwynt”
Nofel sy’n adrodd stori merch yn ei harddegau sy’n colli’r bws i’r ysgol un bore ydi #helynt gan Rebecca Roberts, ac yn ôl yr awdur mae hi’n “stori am garu dy hun”.
“Mae #helynt yn stori am garu dy hun, am fod yn wahanol ac yn falch o’r ffaith – neges dw i’n meddwl mae angen i bobl ifanc ei chlywed yn aml,” meddai Rebecca Roberts, sy’n byw yn y Rhyl.
“Mae Rachel mor agos at fy nghalon, felly roeddwn i wrth fy modd o glywed bod y beirniaid yn teimlo’r un fath â minnau.
“Mae wir yn anrhydedd ac yn uchafbwynt anhygoel. Mawr yw fy niolch i bawb a helpodd i ddwyn #helynt i’r byd.”
“Stori sydd yn cydio”
“Dyma stori sydd yn cydio o’r dechrau i’r diwedd gan gyfleu rhywfaint o realiti effaith tlodi a thrais yn y cartref ar berson ifanc yn y Gymru cyfoes,” meddai T Hywel James am nofel Rebecca Roberts.
“Mae portread sensitif a chynnil iawn o brif gymeriad gydag anabledd wedi ei gynnwys yn grefftus iawn yn y stori – ond merch ddewr, nid ei hanabledd, yw ffocws y dweud.
“Fel panel credwn fod y nofel hon yn esiampl ardderchog, ‘clasurol’ hyd yn oed, o genre llenyddiaeth i’r arddegau – ac nid camp hawdd yw cyflawni hynny.”
Bydd cyfweliad gyda Rebecca Roberts yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos nesaf.
Roedd canmoliaeth hefyd i’r ddwy nofel arall oedd ar y rhestr fer, sef Llechi gan Manon Steffan Ros, ac Y Castell Siwgr gan Angharad Tomos.
“Cyfrolau rhagorol”
“Llongyfarchiadau gwresog i awduron a chyhoeddwyr y llyfrau buddugol, a’r holl deitlau gwych eraill a gyhoeddwyd yn ystod 2020,” meddai Helen Jones, Pennaeth Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen y Cyngor Llyfrau.
“Nid tasg hawdd oedd i’r beirniaid ddewis dau enillydd o blith y cyfrolau rhagorol a ddaeth i law yn y categorïau cynradd ac uwchradd Cymraeg, ac mae hynny’n dyst i’r cyfoeth o dalent sydd gennym ar draws pob agwedd o’r sector llyfrau yng Nghymru.”
Bydd enillydd rhestr fer Saesneg Gwobrau Tir na n-Og 2021 yn cael ei ddatgelu ar y Radio Wals Arts Show am 6:30 heno (Mai 21), ac mae Where the Wilderness Lives gan Jess Butterworth, The Short Knife gan Elen Caldecott, a The Quilt gan Valériane Leblond wedi cyrraedd y rhestr fer.