Roedd cyfweliad Panorama Martin Bashir gyda’r Dywysoges Diana wedi ychwanegu at ei “hofn, ei pharanoia a’i hunigrwydd” yn ystod blynyddoedd olaf ei bywyd ac wedi niweidio ei pherthynas gyda’r Tywysog Charles, yn ôl Dug Caergrawnt.

Mae’r Tywysog William a’i frawd Dug Sussex wedi bod yn hynod feirniadol o’r BBC ar ôl i ymchwiliad ddarganfod bod y gorfforaeth wedi celu “ymddygiad twyllodrus” y newyddiadurwr Martin Bashir er mwyn sicrhau cyfweliad gyda’u mam yn 1995.

Wrth feirniadu’r BBC, dywedodd William: “Roedd y cyfweliad wedi cyfrannu’n sylweddol at waethygu’r berthynas rhwng fy rhieni ac mae wedi brifo nifer o bobl eraill ers hynny.

“Mae’n dod â thristwch annisgrifiadwy i wybod bod methiannau’r BBC wedi cyfrannu’n sylweddol at ei hofn, ei pharanoia a’i hunigrwydd dw i’n ei gofio o’r blynyddoedd olaf hynny gyda hi.

“Ond yr hyn sy’n fy nhristáu fwyaf yw pe bai’r BBC wedi ymchwilio’n iawn i’r cwynion a’r pryderon a ddaeth i’r amlwg gyntaf yn 1995, byddai fy mam wedi gwybod ei bod wedi cael ei thwyllo.

“Methwyd hi nid yn unig gan ohebydd twyllodrus, ond gan arweinwyr yn y BBC oedd wedi edrych y ffordd arall yn hytrach na gofyn y cwestiynau anodd.”

Mae William, 38, wedi galw am sicrhau nad yw’r cyfweliad fyth yn cael ei ddangos eto.

“Arferion anfoesegol wedi cymryd ei bywyd”

Mewn datganiad ar wahân, dywedodd Harry, 36, Dug Sussex: “Yn y pen draw, roedd effaith cryfach diwylliant o ecsbloetio ac arferion anfoesegol wedi cymryd ei bywyd. I’r rhai sydd wedi cymryd rhyw fath o atebolrwydd, diolch am wneud hynny.

“Dyna’r cam cyntaf tuag at gyfiawnder a gwirionedd. Ac eto, yr hyn sy’n fy mhoeni’n fawr yw bod arferion fel y rhain – a hyd yn oed yn waeth – yn dal i fod yn gyffredin heddiw.

“Mae’n fwy nag un rhwydwaith, neu un cyhoeddiad. Collodd ein mam ei bywyd oherwydd hyn, ac nid oes unrhyw beth wedi newid.

“Trwy amddiffyn ei hetifeddiaeth, rydym yn amddiffyn pawb, ac yn cynnal yr urddas y bu iddi fyw ei bywyd gyda hi. Gadewch i ni gofio pwy oedd hi a beth oedd hi’n sefyll drosto. ”

Mae’r BBC wedi ysgrifennu at y teulu brenhinol i ymddiheuro am yr amgylchiadau yn ymwneud a’r cyfweliad.

Bu farw Diana mewn damwain car ym Mharis ddwy flynedd ar ôl y cyfweliad ym mis Awst 1997.