Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd Cyngor Gwynedd yn cyfrannu at bodlediad Cymraeg newydd ar gyfer darllenwyr.

Bydd ‘Byw Llyfrau’ yn trin a thrafod detholiad eang o lyfrau, gan sgwrsio gyda gwahanol awduron o Gymru am eu llyfrau a’u diddordebau darllen.

Caiff ei ddisgrifio fel “podlediad ysgafn, hawdd i wrando arno, a fydd, gobeithio, yn apelio at bawb sy’n hoff o lyfrau”.

Mae’r prosiect, sy’n rhan o gynllun Estyn Allan a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn cael ei arwain gan Gymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru.

Bydd staff llyfrgell o Wynedd, Conwy, Ceredigion a Dinbych yn arwain y gwaith o gynhyrchu’r podlediad.

“Mi gawson hyfforddiant ar bob math o elfennau digidol, megis cyfryngau cymdeithasol, golygu fideo, ffrydio byw a chreu podlediadau,” meddai Rhian Evans, Llyfrgellydd Gwasanaethau Defnyddwyr Cyngor Gwynedd.

“Yn dilyn yr hyfforddiant roeddem yn cael ein hannog i greu cynnwys. Felly fi, Delyth, Lois a Judith sydd yn ymddangos yn ein tro yn y gwahanol benodau a da ni’n rhannu’r ochr dechnegol o’r gwaith ymysg ein gilydd gyda chefnogaeth gweddill y grŵp Estyn Allan.”

“Gwych”

Ychwangodd y Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Economi Cyngor Gwynedd: “Mae mwy a mwy o bobol yn mwynhau gwrando ar bodlediadau erbyn hyn ac mae’n wych gweld cyfres arall Cymraeg i’w hychwanegu at y rhestr.

“Mae’r buddsoddiad yma yn ein helpu i wneud defnydd o gyfrwng cyfoes a phoblogaidd er mwyn ehangu presenoldeb a phroffil digidol llyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru.

“Dwi’n siŵr y bydd y podlediad yn llwyddiant, ac edrychaf ymlaen at wrando arno.”

Mae’r bennod gyntaf yn cynnwys sgwrs gyda’r awdures Rebecca Roberts, lle mae dwy o ddisgyblion Ysgol Brynrefail yn ei holi am ei llyfr poblogaidd i bobol ifanc.

Mae modd gwrando ar rhagflas o’r podlediad fan hyn.