Mae pennaeth cwmni cyhoeddi Parthian wedi cyhuddo Gŵyl y Gelli o droi ei chefn ar Gymru.

Wrth lambastio’r ŵyl am anwybyddu diwylliant Cymreig, mae Richard Lewis Davies yn holi ble mae’r awduron a chyhoeddwyr Cymreig eleni.

Dyweda’r awdur a’r cyhoeddwr fod y lefel o ymgysylltu â Chymru yn “warth” gan ŵyl sy’n derbyn cymaint o arian gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, ac yn cael ei noddi gan y sector addysg yng Nghymru.

Daw hyn wedi i Guto Harri, sy’n eistedd ar Fwrdd Cyfarwyddwyr yr ŵyl, addo i Golwg fis diwethaf y byddai rhagor o Gymraeg i’w chlywed yn yr ŵyl rithiol eleni.

“Mae lefel y cysylltiad yn warth”

Mae Richard Lewis Davies yn gwneud ei sylwadau yn The Bookseller, y cylchgrawn ar gyfer y diwydiant llyfrau, a nation.cymru.

“Mae awduron wrth eu boddau’n cael eu gwahodd i Ŵyl y Gelli,” meddai Richard Lewis Davies, gan ychwnaegu y bydd “gwerthiannau yn cynyddu i ffigurau dwbl”.

“Mae’r ŵyl wedi cymryd diddordeb trefedigaethol yn llenyddiaeth a diwylliant Cymreig, ychydig yn nawddoglyd ar adegau,” ond gan ychwanegu “mae hi wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i yrfaoedd awduron fel Owen Sheers, Rachel Trezise, a Carwyn Jones.

“Mae’r ŵyl wedi cynnig cyflogaeth a chreu cyfoeth. Roedd yr Ymerodraeth Brydeinig yn dda am wneud hynny hefyd.”

Ond mae’n mynd ymlaen i ofyn: “Felly pam fod rhaglen Gŵyl y Gelli wedi troi ei chefn ar Gymru eleni?”

“Mae lefel y cysylltiad yn warth gan ŵyl sy’n derbyn arian sylweddol gan Lywodraeth Cymru / Cyngor Celfyddydau Cymru, a Chynghorau Prydeinig (Cymreig).

“Mae’n agor ar Lwyfan CymruDigidol. Ond pam mynd i drafferth cyfieithu, dw i ddim yn gwybod, waeth iddyn nhw ei roi e’n Rwsieg ddim.”

Mae Richard Lewis Davies yna’n mynd yn ei flaen i ddweud fod y gynrychiolaeth Gymreig yn waeth fyth ar raglen y digwyddiadau i blant, gan ddweud mai’r pethau agosaf i gysylltiad Cymreig yw Bad Wolf yn siarad am His Dark Materials.

“Mae ganddyn nhw Fardd Plant Lloegr, cyn-fardd plant Gwyddeleg, a chafodd un o’r awduron eu geni yn Dorset.

“Mae Gweriniaeth Wimbledon Ganolog wedi’i chynrychioli’n dda yno, ond does yna ddim lle i Eloise Williams, Bardd Plant Cymru.

“Ar gyfer Cymru, gweler Lloegr.”

“Anwybyddu yn eich gwlad eich hun”

Gyda’r ŵyl yn digwydd yn rhithiol eleni, dyweda Richard Lewis Davies nad oes rhaid i’r cyfranwyr deithio i Gymru hyd yn oed.

“Mae’n gwestiwn o gael eich anwybyddu yn eich gwlad eich hun, ac os ydyn ni yn ildio’n gyfan gwbl i’r agwedd drefedigaethol sy’n ymddangos ei fod wedi treiddio i’r broses o wneud penderfyniadau yng Ngŵyl y Gelli.

“Tybed a fyddai’n gweithio yng Nghaeredin petai’r ŵyl lenyddol yno’n mynd yn ei blaen heb awduron o’r Alban?

“Ie Cymru, ond dim diolch i ddiwylliant Cymreig.”

Llyfrau’n bwysicach nag arian

Wrth gyfeirio at y gweithiau, awduron, a chyhoeddwyr Cymreig y gellid bod wedi’u cynnwys eleni, mae Richard Lewis Davies yn cwestiynu lle mae Richard Owain Roberts a enillodd wobr Not the Booker yn 2020, a lle mae Huw Stephens yn siarad â Peter Lord, yr hanesydd celf.

“Lle mae’r dathlu 40 mlynedd o gyhoeddi llyfrau gan Seren Books? Neu Rachel Trezise yn trafod ei nofel sydd wedi’i seilio ar ddiwrnod y bleidlais Brexit yn y Rhondda.

“John Sam Jones yn siarad am dyfu fyny’n hoyw yng Nghymru, a derbyn triniaeth therapi sioc drydan gan y Gwasanaeth Iechyd mewn ysbyty yn Sir Ddinbych mewn ymdrech i’w wella?

“Bydd yr ŵyl yn honni eu bod nhw angen gwerthu tocynnau. Mae hi’n ŵyl gyda chynulleidfa ryngwladol.

“Ond ai dyna’r unig beth mewn cwestiwn? Dim ond arian?

“Ro’n i’n meddwl fod llyfrau’n bwysicach na hynny.”

Guto Harri yn addo rhagor o Gymraeg yng Ngŵyl y Gelli

Non Tudur

“Dw i’n meddwl, erbyn y flwyddyn nesa’, bydd yna fwy o sesiynau Cymraeg yn y mics”