Ymhlith y Cymry sy’n rhan o arlwy Gŵyl Ddigidol y Gelli eleni – a gafodd ei chyhoeddi ddydd Mawrth – mae’r bardd Mererid Hopwood, yr awdur Anni Llŷn, y llenor Owen Sheers a’r awdur Jo Lloyd, y cerddor Rufus Mufasa, yr actor Michael Sheen, a’r athletwr Colin Jackson.

Ond mae arlwy Cymraeg yr ŵyl – a gafodd ei chynnal yn gwbl ddigidol y llynedd am y tro cyntaf – wedi crebachu i fraidd dim dros y degawdau.