Mae The Short Knife gan Elen Caldecott – nofel hanesyddol i bobl ifanc wedi’i gosod yn yr Oesoedd Canol cynnar – wedi dod i’r brig yng nghategori Saesneg Gwobrau Tir na n-Og 2021 ar gyfer llenyddiaeth plant a phobol ifanc.

Cafodd ei hysgrifennu fel rhan o ddoethuriaeth yr awdur mewn Ysgrifennu Creadigol lle bu’n edrych ar y cyfleoedd creadigol y mae ysgrifennu dwyieithog yn eu cynnig.

Dyma’r tro cyntaf i Elen Caldecott ennill Gwobr Tir na n-Og.

Datgelwyd enw’r llyfr buddugol ar raglen y Radio Wales Arts Show nos Wener, 21 Mai, gyda’r awdur yn derbyn gwobr ariannol o £1,000 yn ogystal â cherdd a gomisiynwyd yn arbennig gan Fardd Plant Cymru, Gruffudd Owen.

Mae gwobrau blynyddol Tir na n-Og, sy’n bodoli ers 46 o flynyddoedd bellach, eleni’n dathlu’r llyfrau gorau i blant ac oedolion ifanc yng Nghymru a gyhoeddwyd yn ystod 2020.

Fe’u trefnir gan Gyngor Llyfrau Cymru a’u noddi gan gymdeithas y llyfrgellwyr, CILIP Cymru.

Fe gafodd enillwyr y categori Cymraeg eu cyhoeddi nos Iau.

Canrifoedd maith yn ôl

Nofel ar gyfer yr oedran 12+ yw The Short Knife gan Elen Caldecott. Mae’r stori wedi’i gosod ganrifoedd maith yn ôl, yn yr Oesoedd Canol cynnar, yn 454, ar adeg pan oedd hunaniaeth Gymreig newydd yn dod i’r amlwg, pan oedd y Rhufeiniaid wedi gadael, a’r Brythoniaid a’r Sacsoniaid yn brwydro i feddiannu tiriogaethau gwahanol.

Y prif gymeriad, Mai, sy’n adrodd y stori. Mae’n ferch ifanc a hyd yma mae eu tad wedi llwyddo i’w chadw hi a’i chwaer Haf yn ddiogel.

Mae’r stori’n dechrau wrth i ymladdwyr Sacsonaidd gyrraedd eu fferm, gan orfodi’r teulu i ffoi i’r bryniau lle mae rhyfelwyr Brythonaidd yn cuddio.

Dilynwn ymdrechion Mai i oroesi mewn byd peryglus lle gall siarad ei mamiaith arwain at farwolaeth, a lle mae’n dod i ddrwgdybio hyd yn oed y bobl hynny mae hi’n eu caru fwyaf.

“Stori ragorol”

“Llongyfarchiadau i The Short Knife gan Elen Caldecott, stori ragorol a gwreiddiol ac iddi naratif a llais benywaidd cryf a thro annisgwyl, sy’n gafael o’r cychwyn cyntaf,” meddai Dywedodd Cadeirydd y panel beirniaid, Jo Bowers.

“Dyma nofel sydd wedi’i hysgrifennu’n huawdl gydag iaith delynegol drwyddi draw, wedi’i gosod yn yr Oesoedd Canol cynnar ar adeg bwysig yn hanes Cymru.”

“Wrth fy modd”

Dywedodd Elen Caldecott: “Dwi wrth fy modd bod The Short Knife wedi ennill y wobr hon.

“Pan mae rhywun yn ysgrifennu am ei gartref, mae’r derbyniad mae’r nofel yn ei gael gan bobl sy’n byw yno yn hynod o bwysig.

“Mae’n meddwl y byd i mi fod y llyfr yn cael ei hyrwyddo a’i gefnogi.

“Diolch yn fawr i bawb sydd ynghlwm â Gwobrau Tir na n-Og!”