Mae Hefin Wyn o Gymdeithas Waldo yn dweud bod yr ymgyrch i ‘hongian cerdd fel deilen’ er cof am y bardd a fu farw 50 mlynedd yn ôl wedi bod yn “llwyddiant ysgubol”.

Fel rhan o’r ymgyrch, roedd pobol yn cael eu hannog i hongian label gyda’u hoff linellau o farddoniaeth ar goed.

‘Dail Pren’ oedd unig gyfrol o farddoniaeth Waldo, a chafodd honno ei chyhoeddi gyntaf yn 1956.

Roedd Waldo, yn ôl y Gymdeithas, “yn gweld pob cerdd fel deilen aeddfed yn addurno coeden iachus yn ei llawn dwf”.

‘Hynod o bles’

Yn ôl Hefin Wyn, llefarydd ar ran y Gymdeithas, roedden nhw’n hynod o bles o weld ymateb nifer o ysgolion oedd yn gysylltiedig â’r bardd.

“Roedd plant Ysgol Llanychllwydog yng Nghwm Gwaun, lle bu Waldo’n athro am gyfnod byr, wedi mynd i drafferth i addurno coed mewn gallt gerllaw,” meddai.

“Yr un modd gosododd disgyblion Ysgol Casmael, lle bu’n brifathro dros dro yn ystod yr Ail Ryfel Byd, labeli lliwgar gyda’u hoff linellau o’i gerddi i blant, ar goed o amgylch yr adeilad.

“Fe wnaethon nhw fideo hefyd yn cofnodi eu gweithgaredd.”

Hanner canrif ers colli Waldo

Non Tudur

Yma mae Dafydd Iwan, Mererid Hopwood, Lleucu Siencyn ac eraill yn egluro apêl ‘bardd mwyaf Cymru’

Annog pobol i osod llinell o waith Waldo Williams ar label a’i “hongian fel deilen ar goeden”

Mae’r weithred yn gyfle i gofio am y bardd a heddychwr o Sir Benfro a fu farw hanner canrif yn ôl