Mae Cymdeithas Waldo yn annog pobol i osod llinell o waith Waldo Williams ar label a’i hongian fel deilen ar goeden ddydd Iau nesaf (Mai 20).

Bu farw’r bardd a’r heddychwr o Sir Benfro ar y dyddiad hwnnw hanner canrif yn ôl, ac mae’r weithred yn gyfle i gofio amdano.

Mae nifer o ddigwyddiadau wedi’u trefnu’n barod eleni i nodi ei farwolaeth yn 1971, ac fe fydd y dail symbolaidd hyn yn dod â phobol yn “nes at y syniadau sydd yn ei gerddi”, yn ôl Eirian Wyn Lewis, cadeirydd Cymdeithas Waldo.

Cyhoeddodd Waldo Williams, un o feirdd mwyaf Cymru’r ugeinfed ganrif, gyfrol o farddoniaeth o’r enw Dail Pren, ac mae’r Gymdeithas yn annog pobol i osod label fel deilen ar goeden i’w gofio.

Waldo Williams

Yn ystod ei yrfa, fe wnaeth Waldo gyhoeddi’r gyfrol Cerddi’r Plant ar y cyd ag E. Llwyd Williams, ac mae Cymdeithas Waldo yn annog disgyblion ysgolion cynradd i ddewis eu hoff linell o blith y cerddi hynny i’w hongian ar goeden.

Yn ogystal â bod yn fardd, roedd Waldo yn heddychwr, yn Grynwr, ac yn genedlaetholwr, a bu’n wrthwynebydd cydwybodol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Cafodd y gŵr, a ddysgodd Gymraeg yn blentyn ar ôl symud o Hwlffordd i Fynachlog-ddu, ei garcharu ar ddau achlysur oherwydd ei ddaliadau heddychlon.’

‘Trymlwythog’

Dywedodd Eirian Wyn Lewis, cadeirydd Cymdeithas Waldo, fod “cymaint o linellau y gellir eu dewis sy’n drymlwythog o ystyr”.

Mae’r Gymdeithas yn annog caredigion llên ac edmygwyr Waldo ledled y wlad i gymryd rhan yn y dathliad, ac maen nhw’n rhagweld y bydd amrywiaeth eang o linellau wedi’u gosod ar labeli yn cyhwfan yn y gwynt ar goed ar draws Cymru.