Ugain mlynedd ar ôl iddo gyhoeddi ei EP ddiwethaf, mae Haydn Holden yn ôl gyda sengl ddwbl newydd – ‘Hefo Mi 2021 / True’ – ond mae o’n mynnu nad yw’n dychwelyd i’r byd cerddoriaeth.

Yn wreiddiol o Drawsfynydd, daeth yr actor a’r canwr yn wyneb cyfarwydd fel aelod o’r band CIC ac yna fel artist unigol.

“T’n gallu cymryd yr hogyn allan o Traws, ond ti methu cymryd Traws allan o’r hogyn,” meddai wrth golwg360.

Yn ddiweddar, bu’n actio’r cymeriad Rhydian yn yr opera sebon Coronation Street.

Mae ‘Hefo Mi 2021’ yn ail gymysgiad gan Haydn ei hun o’r trac gwreiddiol a gafodd ei gyhoeddi ganddo yn 2001.

Mae’r ‘spin’ cyfredol sydd iddi yn cynnwys dylanwadau cerddorol yr 80au ac adleisiau o gerddoriaeth grwpiau fel S’Express ac Utah Saints.

Mae’r ail drac, ‘True’, yn ffrwyth cydweithio rhwng Haydn a’r DJ Nathan X.

Disgrifia Haydn y caneuon fel “pop dance”.

Bydd y ddau drac, ynghyd â fersiwn estynedig o ‘True’, ar gael ar yr holl blatfformau digidol ddydd Gwener (Mai 14).

‘Rhwng dau feddwl’

Ond roedd Haydn wedi bod rhwng dau feddwl ynghylch cyhoeddi ffrwyth ei lafur o gwbl.

“Wnes i ei gadael hi am ychydig, doeddwn i ddim yn siŵr os oeddwn i dal eisiau ei gwneud hi achos actor ydw i yn y bôn, dyna dw i eisiau ei wneud,” meddai wrth golwg360.

“Ddaru o gymryd chwe mis i gyd efo’i gilydd i gwblhau’r peth, a daeth Coronation Street o gwmpas wedyn, tua diwedd y flwyddyn.

“A be ddigwyddodd wedyn efo Nathan X oedd fod o newydd chargio mewn efo’i gân newydd ‘The Weekend’ a dyma fi’n sôn wrtho fo bod gen i brosiect ymlaen ar y funud ac roedd ganddo fo ddiddordeb.

“Felly wnes i hel tracs oedd gen i a’u cyfieithu nhw basically o’r Gymraeg i Saesneg a wnaeth o ddewis y gân ‘True’.”

‘Roedden ni i gyd yn gwybod fod yr holl beth yn mynd i ddod i ben’

Eglurodd Haydn ychydig am ei gyfnod gyda’r band CIC, oedd hefyd yn cynnwys Steffan Rhys Williams, Tara Bethan a Sarra Elgan.

“Dechreuodd y band yn 2000 dw i’n meddwl, ac roedden ni’n gwybod fod CIC yn mynd i ddyfod ac wedyn dod i ben,” meddai.

“Mi ddaru ni lansio record a ballu ond y plan oedd gwneud dim byd arall rili.

“Felly roedden ni gyd yn gwybod fod yr holl beth yn mynd i ddod i ben.”

“Oedd rhaid i fi gymryd amser allan”

Ar ôl i CIC ddod i ben, treuliodd Haydn gyfnod yng Nghaerdydd lle’r oedd yn dal i gynhyrchu cerddoriaeth fel artist unigol.

Ond beth mae Haydn wedi bod yn ei wneud am yr ugain mlynedd diwethaf?

“Ar ôl i’r miwsig orffen a ballu, mi ddos i draw i Manchester a re-educatio fy hun mewn ffordd yn y Manchester School of Acting ac wedyn gwneud rhannau bach am dipyn, ac wedyn wnes i chwarae Ian Brady ychydig flynyddoedd yn ôl rŵan yn y Moors Murders ar Channel 5.

“Ond be’ ddigwyddodd wedyn oedd mi wnaeth Mam a Dad farw o fewn wyth mis i’w gilydd, roedd Dad efo dementia felly roedden ni ar y daith efo fo mewn ffordd bo ‘na rywbeth yn mynd i ddigwydd.”

Wythnos cyn noson agoriadol Haydn gyda chynhyrchiad newydd, cafodd ei fam ei rhuthro i’r ysbyty.

“Mi nath hi basio,” meddai.

“Ac wedyn roedd rhaid i fi gymryd amser allan, dw i’n cofio un casting director pan oeddwn i’n gwneud cyfweliad ar gyfer rhaglen ITV, Victoria.

“Dw i’n cofio hi’n deud, ‘Look Haydn, I understand were your coming from but I think sometimes you need to take a step back‘ a deud wrtha i ‘get yourself together’ rili.

“Ti’n gwybod, ti isio gwneud dy orau, mae yna bobol yn dod fyny y tu ôl i chdi efo’r job a ballu ond y peth gorau nes i oedd cymryd time out.

“Ac wedyn yn y ddwy flynedd ddiwethaf ‘ma rŵan, dw i ’di bod yn kind of barod i fynd allan eto, ti’n gwybod?”

Dim mwy o gerddoriaeth

Mae Haydn yn mynnu na fydd yn cynhyrchu rhagor o gerddoriaeth.

“I fod yn onest, dw i’n licio canu… ond actor ydw i,” meddai.

“Yr holl beth rŵan sy’n cloi efo’r ugain mlynedd, fel yr oeddwn i’n dweud wrth Sain, mae yna bwyslais ar y ffaith mai dim ond retrospective ydi hwn, dydi o ddim yn ail-lansiad i mewn i fiwsig eto.

“Dw i ddim yn mynd i ryddhau mwy o ganeuon a ballu, mae o jyst yn beth sydd wedi digwydd dros yr ugain mlynedd diwethaf.

“Mae o’n reit bersonol mewn ffordd achos dydi o ddim jyst i wneud efo be dw i wedi’i wneud dros yr ugain mlynedd, mae o’n rhywbeth personol hefyd.

“Dw i wedi colli’n rhieni a ballu, mae yna bethau sydd wedi digwydd i mi yn fy mywyd personol.

“Ond mae o’n fraint bod Sain wedi cynhyrchu fo i mi a bod nhw wedi bod yn fodlon rhyddhau rhywbeth arall gyda mi.”