Mae yno ansicrwydd ymhlith perchnogion sinemâu annibynnol Cymru wrth i nifer ohonynt baratoi i ailagor o Fai 17.

Mae Anna Redfern yn berchen ar Cinema & Co yn Abertawe, fydd yn agor ar gyfer cael ei logi o Fai 17 cyn agor yn llawn erbyn hanner tymor, ac mae hi wedi dweud wrth golwg360 fod ailagor y sinema “yn fater o oroesi bellach”.

Daw hyn wrth i Lywodraeth Cymru baratoi i lacio rhagor o gyfyngiadau Covid-19 wrth i sefyllfa’r feirws barhau i wella.

“Mae ein paratoadau i ailagor mynd yn dda, ond mae’n dipyn o sialens gan ein bod ni’n sinema a bod y byd ffilmiau wedi dod i stop y llynedd,” meddai.

“Ac wrth gwrs, mae pobol yn dal i fod yn bryderus am fod mewn torf… maen nhw hefyd wedi bod yn styc y tu mewn ac felly wedi gwylio lot o ffilmiau y byddwn ni’n eu hystyried yn fara menyn i ni.

“Dw i hefyd yn meddwl y bydd sbel nes bod pobol yn teimlo’n ddigon diogel i ymgynnull gyda phobol eraill.

“Ar ben hynny, mae’r haf yn gyfnod tawel i sinemâu beth bynnag.

“Felly bydd hi’n ddiddorol gweld sut fydd y tirwedd sinematig yn edrych ar ôl hyn i gyd.

“Rydyn ni’n ceisio addasu a chynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau, gan gynnwys digwyddiadau y tu allan.

“Dw i’n meddwl ein bod ni’n lwcus yn hynny o beth o’i gymharu â sinemâu mawr, mae gennym ni’r rhyddid i wneud pethau gwahanol.

“Ond mae’n gyfnod eithriadol o anodd i sinemâu ymhobman, does dim dwywaith am hynny.”

Sinemâu wedi cael “bargen wael”

Yn ôl Anna Redfern, mae sinemâu “wedi cael bargen wael ar y cyfan” o gymharu â rhai diwydiannau a meysydd eraill yn ystod y cyfnod clo.

“Er enghraifft, fe wnes i fuddsoddi mewn offer sinema y tu allan y llynedd, ond gan ein bod ni’n dod o dan adloniant, dim ond 30 o bobol sy’n cael dod yma,” meddai.

“Felly doedd y buddsoddiad yn yr offer ddim werth e.

“Ond pe baen ni’n dod o dan fwyd a diod, gallen ni gael hyd at 500 o bobol wedyn.

“Felly mae’n gyfnod anodd iawn i sinemâu.”

“Mater o oroesi bellach”

Mae’n dweud ymhellach nad oes ganddi ddewis ond agor os yw’r busnes am oroesi.

“Does gen i ddim dewis ond ailagor erbyn hyn, fel arall bydd yn rhaid i mi gau lawr a byddwn i’n colli fy mywoliaeth,” meddai.

“Mae’n fater o oroesi bellach.

“Mae’n gyfnod mor ansicr, oherwydd nes ailagor adeg y Nadolig a’r diwrnod cyn ein sgrinio cyntaf ar ôl y cyfyngiadau symud, cyhoeddodd (Mark Drakeford) fod yn rhaid i ni gau ar y dydd Gwener canlynol.

“A dw i’n poeni, beth os bydd hynny’n digwydd eto? Mae gennym ni gymaint o ffilmiau ac ati wedi’u trefnu ar gyfer mis Mehefin a gallen nhw ein synnu ni eto a bydd rhaid i ni gau.

“Arian, amser, egni i gyd lawr y draen.”

“Rhaid bod yn bositif”

Er gwaetha’r sefyllfa “ddespret”, dywed fod “rhaid bod yn bositif”.

“Dyma yw fy mywoliaeth,” meddai.

“Os nad ydw i’n bositif, bydd hi’n hwyl fawr i Cinema & Co.

“Rwyt ti’n gorfod meddwl ar dy draed oherwydd bod yr amgylchiadau yn newid drwy’r amser.

“Felly ydw, dw i’n ceisio bod mor bositif ag y galla i fod, ond mae’r sefyllfa’n eitha’ despret nawr.”

‘The Welshman’ yn dod i sinemâu annibynnol Cymru

Un ffilm fydd yn dod i Cinema & Co cyn bo’ hir ydi ‘The Welshman’.

Lindsay Walker o Fôn sydd wedi creu’r ffilm ddogfen, sy’n gyfuniad o gyfweliadau ac ail-greu digwyddiadau dramatig am ymgyrch fomio Owain Williams.

Yn 1963, aeth Owain Williams ac eraill ati i fomio safle adeiladu argae yng Nghwm Tryweryn ger y Bala i dynnu sylw at anghyfiawnder y penderfyniad i foddi pentref Capel Celyn er mwyn sicrhau cyflenwad dŵr i Lerpwl.

Hyd yma, mae Lindsay Walker wedi cael cadarnhad y bydd y ffilm yn cael ei dangos yn:

  • Neuadd Ogwen, Bethesda
  • CellB, Blaenau Ffestiniog
  • Pontio, Bangor
  • Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth
  • Cinema & Co, Abertawe
  • Chapter, Caerdydd
  • Tŷ Pawb, Wrecsam
  • Red House, Merthyr Tudful.

Gallai hyd at 25 sinema fod ar y rhestr lawn, yn ôl Lindsay Walker, sy’n dweud bod gweithio â sinemâu annibynnol Cymru yn “bwysig iawn” iddi.

“Mae’n bwysig iawn i mi oherwydd yn amlwg dw i’n ffan mawr o’r sinema,” meddai wrth golwg360.

“Dw i’n gallu eu helpu nhw ac yn yr un modd maen nhw’n gallu fy helpu i.

“Dw i wir eisiau i bobol gael y cyfle i’w dangos, dw i ddim yn mynd i’w dangos hi yn rhywle am wythnos ac wedyn dyna ni, does neb arall yn cael ei dangos.

“Os ydi un sinema’n methu agor tan fis Rhagfyr wel dyna ni, os ydan nhw eisiau ei dangos bryd hynny, chawn nhw ddim problem.

“Mae o’n gyfnod cyffrous iawn, mae’r ffilm wedi bod yn barod ers rhyw ddau, dri mis a dydy ei ddosbarthu yn y ffordd yma ddim yn rhywbeth wnes i feddwl amdano’n wreiddiol.

“Ffilm Cymru, sy’n sefydliad gwych, oedd eisiau fy helpu i’w dosbarthu i sinemâu lleol a wnes i feddwl ‘Waw! Am syniad gwych’, ac wedyn dechrau e-bostio sinemâu a gofyn a oedd diddordeb ganddyn nhw.

“Roeddwn i’n e-bostio pawb ac mae nifer eisiau ei dangos, ac mae pobol i weld eisiau mynd i weld y ffilm yn y sinema hefyd.

“Felly ydi, mae o’n gyffrous iawn.”