Mae gwneuthurwr ffilm o Ynys Môn wedi rhoi gwedd newydd ar stori a chymeriad sy’n rhan bwysig o hanes mudiad cenedlaethol Cymru, meddai…

Mae cyfarwyddwr sydd wedi cynhyrchu ffilm am Owain Williams a’i ran yn yr ymgyrch i fomio safle argae Tryweryn yn dweud ei bod hi’n awyddus i’r stori gael ei hadrodd i weddill y byd – a hynny o safbwynt y Cymry.

Lindsay Walker o Fôn sydd wedi creu’r ffilm ddogfen The Welshman, sy’n gyfuniad o gyfweliadau ac ail-greu digwyddiadau dramatig.

Yn 1963 aeth Owain Williams ac eraill ati i fomio safle adeiladu argae yng Nghwm Tryweryn, ger y Bala, i dynnu sylw at anghyfiawnder y penderfyniad i foddi pentref Capel Celyn er mwyn sicrhau cyflenwad dŵr i Lerpwl.

Fe gollodd 48 o Gymry eu cartrefi, a hynny er gwaetha’r ffaith i bron bob Aelod Seneddol o Gymru wrthwynebu’r cynllun i greu Llyn Celyn yng Nghwm Tryweryn yn 1965.

Mae hanes y boddi’n gyfarwydd i genedlaethau o Gymry erbyn hyn, a ‘Cofiwch Dryweryn’ yn slogan poblogaidd ar sawl mur.

Ond roedd Lindsay Walker yn awyddus i adrodd yr hanes o bersbectif un o’r bomwyr.

Dros 40 munud y ffilm, cawn gyfarfod ag Owain Williams a deall mwy am sut fu’r bomio yn fan cychwyn ar gyfer ymrwymiad oes i ddeffroad y genedl, yn ôl y cyfarwyddwr.

Erbyn heddiw mae Owain Williams yn arweinydd plaid wleidyddol Llais Gwynedd ac yn gynghorydd sir dros bentref Clynnog yng Ngwynedd.

Cyn y bomio yn y 1960au, roedd y Cymro dramor – ond yn cadw llygad ar ei famwlad.

“Yn y ffilm, mae yn siarad am y ffaith ei fod o yng Nghanada a bod ei fam yn anfon papurau Cymreig ato am y pethau oedd y digwydd ar y pryd,” eglura Lindsay Walker.

“A dyna ddaru ei yrru’n ôl yma oherwydd, yn amlwg, roedd hi’n anghyfiawn ac roedd o’n teimlo’n angerddol am hynny. Mae’n ddyn angerddol ac yn storïwr gwych hefyd, felly stori person cyntaf o safbwynt Owain ydi hon.”

A hithau wedi’i geni, ei magu, a’i haddysgu ym Môn, mae Lindsay Walker yn teimlo’n gryf na chaiff hanes Cymru ei ddysgu na’i adrodd yn ddigonol o safbwynt y Cymry.

Owain Williams mewn llun cyhoeddusrwydd ar gyfer y ffilm The Welshman

Ymgais yw ei ffilm i wneud yn iawn am hyn o safbwynt Tryweryn a rhan Owain Williams yn y stori, meddai.

“Doeddwn i ddim yn ymwybodol fy hun o’r hanes tan ryw bedair neu bum mlynedd yn ôl. Dw i wedi bod yn ymchwilio iddo, y ffordd mae’r hanesion hyn yn cael eu hadrodd ac fel gwneuthurwr ffilmiau, dydw i erioed wedi teimlo boddhad. Mae hanes gwych yng Nghymru ond nid fel Outlander na Braveheart, ond dw i’n credu bod cymaint o ddrama a straeon o’r galon sydd wedi digwydd yma hefyd.

“Ond am ryw reswm neu’i gilydd, dydyn nhw ddim wedi cael eu trin yn yr un ffordd. Dydyn nhw ddim wedi cael eu cymryd o ddifri ac felly mae’n bwysig eu hadrodd nhw o bersbectif gwahanol.

“Am wn i, dw i wedi ceisio dod ati o safbwynt personol Owain ei hun, yn hytrach na chanolbwyntio ar ‘Cofiwch Dryweryn’ neu’r pwnc fel rydan ni wedi clywed amdano fo dro ar ôl tro, er mwyn cael mwy o daith bersonol, os liciwch chi.

“Pam wnaeth o’r pethau hyn? Beth oedd y bwriad y tu ôl i’r weithred? A hynny er mwyn gwneud y stori’n fwy dynol. Oherwydd y cyfan rydach chi’n ei glywed ydi boddi Capel Celyn, felly ro’n i am adfywio ein hanes ni, nid dim ond i genhedlaeth newydd ond i bobol sydd wedi ei glywed o dro ar ôl tro hefyd.”

Tri Tryweryn

Mae’n debyg bod yr ysgrifen ar y mur i Owain Williams yn ifanc iawn, ac yntau’n aelod o Blaid Cymru yn 11 oed am nad oedd gofyn iddo ddatgelu ei oedran. Ond yn 16 oed, roedd e wedi dadrithio â’r Blaid. Ar ôl cyfnod yn byw yng Nghanada, dychwelodd i ardal Nefyn yn 1959 a gweithio mewn caffi ym Mhwllheli. Ond roedd wedi dysgu am ffrwydron yng Nghanada, ac fe aeth ati ar ôl dod adref i ffurfio Mudiad Amddiffyn Cymru gydag Emyr Llywelyn.

“Mae ei fywyd cyfan o’n rhyfeddol, mae yna dipyn o dorcalon hefyd ac mae’r ffilm ddogfen yn edrych ar hynny,” meddai Lindsay Walker.

“Mae o wedi cael bywyd caled ond mae’n gymeriad gwych ac mae ei hiwmor o’n dod drosodd yn y ddogfen gyda sawl eiliad doniol hefyd.”

Ar Chwefror 10, 1963, aeth Owain Williams, Emyr Llywelyn a John Albert Jones ati i achosi ffrwydrad ar safle adeiladu’r argae yn Nhryweryn. Ar y noson aeth fawr ddim o’u plaid nhw a hynny, yn ôl Owain Williams, am eu bod nhw’n amaturiaid.

Daethon nhw i wybod yn gyflym iawn fod yna ffin denau iawn rhwng bod yn wladgarol a bod yn derfysgwyr. Cafodd Emyr Llywelyn ei garcharu am y weithred, ac fe aeth y ddau arall yn eu blaenau i ffrwydro peilon yng Ngellilydan, gyda’r heddlu’n arestio Owain Williams. Dyma’r cyfnod pan chwalodd ei briodas ac roedd eu merch fach hefyd wedi bod yn sâl tra’i fod yn y carchar.

Mae’r ffordd y caiff yr hanes cyhoeddus a’r elfennau personol eu plethu a’u hadrodd gan Owain Williams yn The Welshman yn ychwanegu haen ychwanegol i’r ffilm, yn ôl Lindsay Walker, sy’n dweud bod y ffaith ei bod hi’n sinematograffydd wedi dylanwadu ar y ffordd yr aeth hi ati i gyfarwyddo’r ffilm.

“Dw i’n meddwl hyd yn oed o sefydlu’r shots camera efo Owain, un o sylwadau David [Railton, cyfansoddwr y trac sain] oedd fod y ffordd y cafodd y cyfweliadau eu gwneud yn creu sgwrs hyfryd, gyda’r tân yn y cefndir ac mae wyneb Owain yn eithaf agos hefyd, sy’n creu ymdeimlad hamddenol ac agos-atoch.

Osian Grifford yn portreadu Owain Williams yn ddyn ifanc

“Roedden ni’n lwcus sawl diwrnod, yn enwedig o safbwynt Osian [Grifford], yr actor sy’n chwarae fersiwn iau o Owain. Cawson ni ambell ddiwrnod niwlog a sawl diwrnod oer. Felly o safbwynt sinematograffaidd, mi gawson ni ambell shot hyfryd, yn sicr.”

Mae cerddoriaeth David Railton yn allweddol i greu naws ddramatig ac i glymu’r cyfan ynghyd, yn ôl Lindsay Walker.

“Rydan ni wedi cydweithio ers blynyddoedd ar ffilmiau byrion a gwahanol brosiectau,” eglura’r cyfarwyddwr.

“Dw i wedi gwneud ambell fideo cerddoriaeth iddo fo ac mae o wedi gwneud y sgôr ar gyfer sawl ffilm fer i fi.  Mae gynnon ni berthynas waith arbennig ac mae o’n Gymro balch. Mae ei fam o Gymru, ond mae o ei hun o Lerpwl. Mae gynno fo’r wybodaeth ac mae’r sgôr mae o wedi’i wneud i mi’n emosiynol iawn, yn Geltaidd iawn, yn bwerus iawn. Mae’n dod â’r stori gyfan allan a heb ei sgôr, fysa’r stori jyst ddim yr un fath o gwbl.”

Pryd welwn ni’r ffilm?

Mae The Welshman bellach yn nwylo sawl cwmni wrth i’r criw geisio ei dosbarthu i’r llwyfan cywir.

“Mi fydd hi’n cael ei hanfon at sinemâu bach lleol i gychwyn, ond yn amlwg ar ôl i’r cyfnod clo orffen fydd hynny,” eglura Lindsay Walker.

“Gobeithio erbyn hynny y byddwn ni mewn sefyllfa well i drïo sawl platfform ffrydio wedyn. Tan hynny, mae hi’n debygol o fod ar y teledu, sy’n wych, ond yn bersonol baswn i am iddi gyrraedd cynulleidfa ehangach na hynny.”

Gyda’r mudiad annibyniaeth YesCymru yn tyfu, mae hi’n teimlo mai nawr yw’r amser i fanteisio ar y momentwm a dod â’r hanes i gynulleidfa barod.

“Mae’r ffilm yn dangos sut mae un weithred wedi arwain at bethau heddiw fel YesCymru a’r holl furluniau ‘Cofiwch Dryweryn’ sydd o gwmpas. Mae’r cyfan oherwydd un weithred dros hanner can mlynedd yn ôl.”

Her i ferched yn y diwydiant

Mae Lindsay Walker yn dweud bod y ffaith ei bod hi’n wneuthurwr ffilmiau benywaidd – ac yn aelod o’r gymuned LGBT – yn dod â heriau.

“Dw i wedi teimlo fy siâr o ragfarn,” meddai. “Pobol yn siarad lawr i fi, sefyllfaoedd anghyfforddus, a dw i hefyd wedi teimlo cywilydd o flaen torf fawr ar ôl cael fy nhargedu gan un cynhyrchydd yn benodol. Yn ffodus, dw i ddim yn teimlo bod hyn wedi fy nal i’n ôl ryw lawer.

“Dydi bod yn gyfarwyddwr benywaidd ddim ond yn fy ngwneud i’n fwy penderfynol o lwyddo ac o adrodd straeon gwych o’m persbectif unigryw fy hun. Dw i’n ceisio rhoi llais i grwpiau lleiafrifol a thaflu goleuni ehangach ar bynciau.”

Denodd ei ffilm fer gyntaf, Bound, fwy na miliwn o wylwyr ar YouTube. “Wnes i drïo gwneud y ffilm mor hygyrch ac unffurf â phosib. Yn y pen draw, stori am gariad unochrog [unrequited love] ydi hi, ac mae’r cwpl ar y sgrin yn digwydd bod yn hoyw. Mae pob stori’n ddynol, dw i’n trïo torri’r hyn sydd o flaen eich llygaid a dod o hyd i lefel ddyfnach o ddealltwriaeth ac uniaethu â hi. Mae The Welshman yn enghraifft arall o geisio cyrraedd cynulleidfa ehangach drwy’r stori.”