Dylanwad ei hetifeddiaeth Eidalaidd sydd i’w weld yng nghynnyrch gofal croen Lisa Curzon, perchennog salon harddwch ger Abertawe a fu yn dioddef o acne…

Olew olewydd, ffigys, a bricyll – dyma’r math o bethau fyddai fel arfer i’w gweld ar fwydlen yn yr Eidal.

Ond mae’r cynhwysion yma wedi’u hychwanegu at gynnyrch gofal croen newydd sydd wedi ei greu gan Lisa Curzon, sy’n berchen salon harddwch yn Nhre-gŵyr.