Bydd nifer o glasuron yn newid dwylo fis nesaf wrth i Gomer werthu ei hen stoc a’r hawliau i ddwy wasg arall yng Ngheredigion…

O fis Ebrill ymlaen, Y Lolfa ac Atebol, dau dŷ cyhoeddi yn ardal Aberystwyth, fydd yng ngofal ôl-gatalog Gwasg Gomer sy’n dyddio yn ôl i 1946.

Ac, yn ôl Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni Gomer yn Llandysul, maen nhw’n mynd “i ddwylo da”.