Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhestr arfaethedig o ddigwyddiadau prawf peilot i’w cynnal dros yr wythnosau nesaf, wrth i gyfyngiadau’r pademig lacio – ac maen nhw’n cynnwys gemau ail gyfle timau pêl-droed Abertawe.

Ar y cyd â phartneriaid, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio er mwyn cyflwyno digwyddiadau prawf peilot er mwyn datblygu prosesau a chanllawiau a fydd yn caniatáu i ddigwyddiadau ailddechrau yn ddiogel.

Bydd rheoli rhaglen o ddigwyddiadau diogel a llwyddiannus yn golygu bod gobaith caniatáu cynulliadau mwy yn ôl i stadiymau, theatrau a lleoliadau eraill yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Mae Eid yn y Castell a Tafwyl wedi’u cadarnhau yng Nghaerdydd ar gyfer yr wythnos hon, tra bod trafodaethau gyda pherchnogion digwyddiadau eraill yn parhau.

Fodd bynnag, mae peth cwyno bod y digwyddiadau oll yn y De.

Rhestr arfaethedig o ddigwyddiadau

Eid-al-Fitr: Mai 12-14 (bydd y dyddiad yn cael ei gytuno noson cyn y digwyddiad), Caerdydd, 300-500 o bobol.

Tafwyl: Mai 15, Caerdydd, 500 o bobol.

Gêm ail gyfle tîm pêl-droed Casnewydd yn yr Ail Adran: Mai 18, Rodney Parade.

Digwyddiad busnes ICCW: Mai 20, Casnewydd, gwahodd 100 o bobol dan do.

Gêm ail gyfle tîm pêl-droed Abertawe yn y Bencampwriaeth: Mai 22, Stadiwm Liberty.

Theatr Brycheiniog: Mehefin 3-4, Theatr Brycheiniog Aberhonddu, 250 o bobol.

Gêm griced Morgannwg v Swydd Gaerhirfryn: Mehefin 3-6, Gerddi Sophia, Caerdydd, 750-1,000 o wylwyr.

Cymru v Albania: Mehefin 5, Stadiwm Dinas Caerdydd, 4,000 o wylwyr.

Triathlon Abergwaun: Mehefin 11 ac 12, Abergwaun/Tŷddewi, cyfranogwyr cofrestredig yn unig.

“Cam yn nes”

“Mae wedi bod yn 18 mis hir ac anodd i’r diwydiant digwyddiadau yng Nghymru – i berchnogion digwyddiadau, y rhai sy’n dibynnu ar y sector am y gwaith – ac i’r rhai sy’n hiraethu am weld digwyddiadau byw yn dychwelyd i Gymru,” meddai Mark Drakeford.

“Wrth i ni edrych ar godi’r cyfyngiadau coronafeirws yng Nghymru, rydym wedi gweithio’n agos gyda threfnwyr digwyddiadau i sefydlu rhestr o ddigwyddiadau prawf peilot sy’n cynnwys amrywiaeth o wahanol leoliadau a mathau o ddigwyddiadau.

“Mae’r gwaith hwn yn dod â ni gam yn nes at ddychwelyd i ddigwyddiadau yng Nghymru, hoffwn ddiolch i berchnogion y digwyddiadau a’r awdurdodau a byrddau iechyd Lleol am eu hymrwymiad i weithio gyda ni a dymuno’n dda iddyn nhw dros yr haf.

“Mae’r digwyddiadau hyn yn wahanol iawn o ran natur a lleoliad ond mae mynediad i fynychwyr – boed yn gyfranogwyr neu’n wylwyr – yn cael ei reoli’n llym gan y trefnwyr a’i gytuno ymlaen llaw.

“Rydyn ni’n gofyn i bobol ddathlu Eid yn wahanol eto eleni. Rwy’n gobeithio’n fawr y bydd dathliadau yn y castell yn cael eu mwynhau gan y rhai sydd â thocynnau.

“Os nad oes gennych docyn, dathlwch yn ddiogel gyda’ch aelwyd agos neu o fewn swigod cymorth.”

Cafodd y digwyddiadau eu dewis mewn trafodaethau gyda bwrdd prosiect Llywodraeth Cymru ar gyfer y rhaglen digwyddiadau prawf a pherchnogion digwyddiadau.

Bydd protocol profi ac asesiadau risg yn cael eu teilwra ar gyfer pob digwyddiad.

Dim digwyddiadau yn y Gogledd

Wrth ymateb i’r rhestr arfaethedig o ddigwyddiadau prawf peilot yng Nghymru, dywedodd AS Plaid Cymru dros Dwyfor Meirionnydd, Mabon ap Gwynfor:

“Mae’r ffaith nad oes digwyddiadau prawf peilot i’r gogledd o Aberhonddu yn siarad cyfrolau am flaenoriaethau Llywodraeth Lafur Cymru.

“Mae lleoliadau wedi cael trafferth drwy’r pandemig ym mhob rhan o’r wlad ac mae’n anffodus iawn bod y cynllun peilot yn anwybyddu’r nifer fawr o leoliadau addas sydd gennym yma ar draws y rhanbarth.

“Os yw’r llywodraeth o ddifrif am wneud yn siŵr nad yw’r Gogledd yn cael ei adael y tu ôl, rhaid i’w weithredoedd ar ôl yr etholiad gyfateb i’w eiriau cynnes o’i flaen.”