Mae arweinydd yr SNP yn San Steffan wedi dweud wrth Boris Johnson fod yn rhaid iddo “barchu dymuniad pobol yr Alban” a chaniatáu ail refferendwm annibyniaeth.

Daw her Ian Blackford yn dilyn llwyddiant ei blaid yn etholiadau Holyrood, wrth i’r SNP ennill pedwerydd tymor mewn grym fel plaid lywodraeth yn yr Alban.

Er na wnaeth Nicola Sturgeon ennill mwyafrif clir, gyda chefnogaeth yr wyth Aelod Seneddol o’r Blaid Werdd a gafodd eu hethol, mae yna fwyafrif yn Holyrood sydd o blaid annibyniaeth.

Mae arweinydd yr SNP eisoes wedi dweud wrth Boris Johnson fod refferendwm yn fater o “pryd – nid os”.

Ond mae Downing Street yn dal i wrthod trafod dyfodol yr Alban, gan fynnu y dylid parhau i ganolbwyntio ar fynd i’r afael â’r pandemig Covid-19.

“Yn ystod yr etholiadau diweddar, dywedodd holl arweinwyr y pleidiau ar draws y Deyrnas Unedig y dylai adferiad ôl-Covid fod yn flaenoriaeth ar y cyd, a dyna mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi bod yn canolbwyntio arno,” meddai llefarydd ar ran y prif weinidog.

‘Llwybrau gwleidyddol gwahanol’

Fodd bynnag, dywed Ian Blackford fod canlyniadau etholiad yr Alban yn golygu bod yna “fandad haearnaidd ar gyfer refferendwm annibyniaeth wedi’r pandemig”.

Mae Nicola Sturgeon yn dweud na fydd refferendwm yn cael ei gynnal nes y bydd argyfwng brys y pandemig wedi dod i ben.

Gyda’r Torïaid yn gwneud yn dda mewn etholiadau lleol yn Lloegr, fe wnaeth Ian Blackford ddadlau bod “Lloegr a’r Alban ar lwybrau gwleidyddol gwahanol”.

“Mae gennym ni ddwy lywodraeth, a dwy Senedd, gyda blaenoriaethau gwahanol,” meddai ar drothwy Araith Brenhines Loerg.

“Rhaid i Boris Johnson barchu dymuniad pobol yr Alban a wnaeth bleidleisio’n amlwg i ailethol yr SNP gyda mandad haearnaidd ar gyfer refferendwm annibyniaeth wedi’r pandemig.”

“Bydd refferendwm”

“Pan ddaw hi i adferiad, fe wnaeth yr Alban bleidleisio dros senedd fydd yn cefnogi polisïau trawsnewidiol er mwyn creu cymdeithas decach ond, yn hytrach, mae’r Torïaid yn ailadrodd camgymeriadau peryglus yr argyfwng economaidd diwethaf, drwy weithredu mesurau cyni, rhewi cyflogau’r sector gyhoeddus, a lleihau Credyd Cynhwysol – gan wthio miliynau o bobol i dlodi,” meddai Ian Blackford wedyn.

“Mae pobol yn yr Alban wedi gwrthod y Torïaid, ac wedi pleidleisio dros adferiad cryf, teg, a chyfartal – yn hytrach na difrod hirdymor toriadau Torïaidd, Brexit, a dwyn pwerau.

“Os ydyn ni am gyflwyno adferiad drwy fuddsoddi a’r newidiadau hirdymor sylfaenol sydd eu hangen ar gyfer mynd i’r afael ag anghydraddoldeb ac adeiladu cymdeithas decach, mae angen pwerau llawn gwlad annibynnol ar yr Alban.

“Unwaith y bydd yr argyfwng hwn drosodd, bydd refferendwm fel bod dyfodol yr Alban yn nwylo’r Alban, ac nid yn nwylo Boris Johnson.

“Rhaid i’r Torïaid beidio â sefyll yn ffordd democratiaeth.”