Mae Leanne Wood, cyn-Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, yn dweud nad yw’r gwrthdaro rhwng Israel a Phalesteina tros lain Gaza yn un “cyfartal”.

Daw hyn ar ôl i Unicef gyhoeddi bod o leiaf chwech o blant wedi’u lladd dros nos, a phedwar ohonyn nhw o’r un teulu.

Maen nhw’n rhybuddio bod nifer y plant fu farw’n debygol o fod yn sylweddol uwch, gan alw am ddirwyn y trais i ben, gwarchod pobol gyffredin a rhoi’r gorau i ymosodiadau sy’n peryglu diogelwch plant.

“Dyw hwn ddim yn wrthdaro cyfartal,” meddai Leanne Wood wrth aildrydar neges Unicef.

“Does dim cyfatebiaeth ar y ddwy ochr. Anghyfartaledd grym enfawr.

“Ddylai’r rheiny sy’n amddiffyn Palestiniaid ddim bod yn cael eu tawelu.

“Rhaid i ddynoliaeth wneud safiad yn erbyn yr hyn sy’n digwydd.”

Yn ystod cyrchoedd awyr fore heddiw (dydd Mawrth, Mai 11), cafodd nifer o gartrefi a thwnneli eu taro wrth i Hamas danio rocedi tuag at Israel.

Daw hyn ar ôl wythnosau o wrthdaro tros Jerwsalem.

Ers dechrau’r gwrthdaro diweddaraf ddoe (dydd Llun, Mai 10), mae lle i gredu bod o leiaf 24 o bobol gyffredin wedi’u lladd mewn cyrchoedd awyr, a bod o leiaf naw o blant yn eu plith.

Ond yn ôl byddin Israel, roedd o leiaf 15 o’r rhai fu farw’n wrthryfelwyr.

Yn ystod yr un cyfnod, mae adroddiadau bod gwrthryfelwyr Gaza wedi tanio mwy na 200 o rocedi at Israel, gan anafu chwech o bobol gyffredin.

Cafodd mwy na 700 o Balestiniaid eu hanafu yn y gwrthdaro, gyda 500 ohonyn nhw’n gorfod derbyn triniaeth yn yr ysbyty.

Gallai’r frwydr ‘barhau am beth amser’

Mae Benjamin Netanyahu, prif weinidog Israel, yn rhybuddio y gallai’r gwrthdaro “barhau am beth amser”.

Yn ôl byddin Israel, mae’n “ddyddiau cynnar” yn y cyrchoedd ar dargedau Gaza sydd wedi’u cynllunio ers peth amser.

Netanyahu yw prif weinidog dros dro Israel ers yr etholiad ym mis Mawrth, ac fe geisiodd e’n aflwyddiannus i ffurfio llywodraeth glymblaid.

Mae’r cyfrifoldeb hwnnw bellach yn nwylo’r wrthblaid.

Beirniadu mesurau’r heddlu

Yn ôl beirniaid, mae’r heddlu wedi ymateb yn llawdrwm i’r gwrthdaro, gan waethygu’r sefyllfa, gan gynnwys eu penderfyniad i gau ardal boblogaidd lle mae pobol yn ymgasglu yn ystod y nos ar ôl gweddïau.

Ardal arall lle bu cryn wrthdaro yw cymuned Sheikh Jarrah, lle mae dwsinau o Balestiniaid mewn perygl o golli eu cartrefi wrth iddyn nhw gael eu gorfodi i symud gan fewnlifiad Iddewig.

Dros y penwythnos, roedd gwrthdaro ger mosg Al-Aqsa yn nwyrain Jerwsalem, ardal a gafodd ei chipio gan Israel yn ystod rhyfel y Dwyrain Canol yn 1967 ac sy’n sanctaidd ymhlith Mwslimiaid ac Iddewon.

Am bedwar diwrnod yn olynol, defnyddiodd heddlu Israel nwy ddagrau, ffrwydron llaw a bwledi rwber i dawelu Palestiniaid oedd yn taflu cerrig a chadeiriau atyn nhw, ac roedden nhw’n tanio i gyfeiriad y mosg hefyd.

Cafodd cannoedd o bobol a thua dwsin o blismyn eu hanafu.

Neithiwr (nos Lun, Mai 10), taniodd Hamas rocedi o Gaza, gan seinio larwm mor bell i ffwrdd â Jerwsalem, ar ôl iddyn nhw roi terfyn amser i Israel dynnu milwyr allan.

Gwaethygodd y sefyllfa wedyn wrth i wrthryfelwyr Gaza danio mwy na 200 o rocedi at Israel, gyda rhyw draean ohonyn nhw’n glanio yn Gaza.

Tarodd un o’r rocedi floc saith llawr o fflatiau yn ninas Ashkelon, gan achosi twll mawr yn yr adeilad.

Cafodd chwech o bobol eu trin gan barafeddygon wedi’r digwyddiad, a chafodd dau ohonyn nhw eu cludo i’r ysbyty.

Yn ôl byddin Israel, fe wnaethon nhw daro 130 o dargedau yn Gaza gan ladd 15 o wrthryfelwyr ond wnaethon nhw ddim ymateb i’r honiadau iddyn nhw ladd o leiaf naw o blant wrth i 24 o Balestiniaid farw dros nos.

Roedd saith ohonyn nhw’n aelodau o’r un teulu, gan gynnwys tri o blant ac fe fuon nhw farw yn dilyn ffrwydrad yn nhref Beit Hanoun ond dydy hi ddim yn glir pwy oedd yn gyfrifol am danio’r roced oedd wedi bwrw eu cartref.

Cafodd mwy na 100 o bobol eu hanafu yn Gaza.

Mewn digwyddiad arall, cafodd dau ddyn a dynes eu lladd pan darodd roced floc o fflatiau mewn gwersyll i ffoaduriaid yn Ninas Gaza.

Mae Israel wedi bod yn ymladd â Hamas ers 2014, gan daro dwsinau o gartrefi yn Gaza a lladd llawer iawn o bobol gyffredin, ond gan ddadlau mai gwrthryfelwyr yw eu targed.