Bydd cyfarpar meddygol yn cael ei anfon o Gymru i gefnogi’r ymateb rhyngwladol brys i’r pandemig Covid-19 yn India.
Mae Llywodraeth Cymru a’r Gwasanaeth Iechyd yn darparu tua 600 o grynodyddion ocsigen, a mwy na 300 o beiriannau anadlu i’r wlad, a byddan nhw’n cael eu hanfon yno yn y dyddiau nesaf.
“Mae COVID-19 yn fygythiad byd-eang ac felly nid yw ond yn iawn ein bod ni’n rhan o’r ymateb byd-eang, gan gefnogi cenhedloedd eraill,” meddai Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd.
“Rydym wedi gweithio’n agos gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth India ar y gwaith logisteg ar gyfer trefnu i gludo’r cyflenwadau hyn i India a’u dosbarthu i’r ysbytai lle mae’r mwyaf o’u hangen.”
Bu Vaughan Gething a’r Athro Keshav Singhal, cadeirydd cangen Cymru o Gymdeithas Prydain ar gyfer Meddygon o Dras Indiaidd, yn ymweld â Chanolfan Ddosbarthu Genedlaethol y Gwasanaeth Iechyd ddoe (Mai 10) i archwilio’r cyflenwadau.
Mae’r hediadau wedi cael trefnu gan y Swyddfa Dramor.
Sefyllfa India
Yn nhalaith Assam yng ngogledd-ddwyrain y wlad, mae’r awdurdodau yn paratoi at gynnydd mewn achosion drwy droi stadiwm a phrifysgol yn ysbytai.
Mae arbenigwyr yn credu bod Covid-19 yn lledaenu’n gyflymach yno nag yn unrhyw ran arall o’r wlad ac ar Fai 9, roedd mwy na 4,700 o achosion wythnosol ar gyfartaledd yn Assam.
Cafodd etholiadau eu cynnal yn y dalaith yn ddiweddar, yn ogystal â ralïau gwleidyddol anferth, sydd wedi cyfrannu at ofnau arbenigwyr ynghylch cynnydd mawr mewn achosion.
Ynghyd â chynnydd mewn achosion yn y dinasoedd sydd ar ffin ogledd-ddwyreiniol India, mae’r haint ar gynnydd mewn rhai pentrefi anghysbell yn yr Himalaya yn yr ardal.
Mae’r ardaloedd yn gartref i lwythi brodorol, sydd heb fynediad da at ofal iechyd.
Dyw’r ardaloedd hyn ddim wedi cael eu heffeithio’n fawr gan Covid-19 hyd yn hyn, ac mae’r diffyg ymwybyddiaeth ynghylch y feirws, diffyg adnoddau, a pha mor bellennig yw’r pentrefi, yn cynyddu at broblemau wrth geisio olrhain cysylltiadau.
Roedd yr awdurdodau yn Assam wedi bod yn brysio i baratoi ar gyfer y cynnydd, gan fod achosion tebyg mewn taleithiau mwy cyfoethog yn India wedi arwain at orlethu ysbytai.
Ar draws y wlad, cafodd 360,000 o achosion newydd eu cofnodi ddoe (dydd Llun, Mai 10), a dros 3,700 o farwolaethau.
Ers dechrau’r pandemig, mae India wedi cofnodi 22.6m o achosion, a dros 246,000 o farwolaethau – gyda’r ddau ffigwr yn debyg o fod yn uwch mewn gwirionedd.