Mae dwy dalaith yn ne India wedi cyflwyno cyfyngiadau Covid-19 wrth i sefyllfa’r wlad waethygu’n gyflym ledled y wlad.

Mae pwysau ar Narendra Modi, prif weinidog y wlad, a’i lywodraeth erbyn hyn i gyflwyno cyfnod clo cenedlaethol.

Mae’r sefyllfa ar ei gwaethaf yn ninas Bengalaru, prifddinas talaiath Karnataka, ond mae arbenigwyr yn rhybuddio bod gwaeth i ddod eto yn sgil prinder ocsigen, ysbytai gorlawn ac amlosgfeydd dan eu sang.

Amrywiolyn sy’n cael y bai am y cynnydd ers mis Chwefror, yn ogystal â phenderfyniad y llywodraeth i roi’r hawl i dorfeydd ymgynnull ar gyfer dathliadau crefyddol a ralïau gwleidyddol.

Roedd 401,078 o achosion newydd a 4,187 o farwolaethau yn y wlad yn ôl ffigurau heddiw (dydd Sadwrn, Mai 8).

Mae mwy na 21.8m o bobol wedi’u heintio ers dechrau’r pandemig, ac fe fu bron i 240,000 o farwolaethau yn ôl cofnodion swyddogol – ond mae disgwyl bod y ffigurau go iawn dipyn yn uwch.

Yn ôl meddygon, dim ond diwrnod mae gwerth pythefnos o ocsigen yn para ar hyn o bryd ac mae’r Uchel Lys bellach wedi gorchymyn y llywodraeth ffederal i gynyddu’r cyflenwadau ar gyfer talaith Karnataka ar ôl i 24 o gleifion farw mewn ysbyty ddydd Llun (Mai 3).

Yn ôl arbenigwyr, mae’r sefyllfa yn Bengaluru bron cynddrwg â dinasoedd fel Delhi Newydd a Mumbai.

Yn Delhi Newydd ac ardaloedd gogleddol eraill, mae’r cyfryngau wedi bod yn dangos cleifion yn aros y tu allan i ysbytai am driniaeth a chyrff yn cael eu hamlosgi drwy gydol y nos.

Mae mwy nag 20,000 o achosion dyddiol newydd yn nhalaith Andhra Pradesh dros y tridiau diwethaf, ac mae cyfyngiadau newydd wedi’u cyflwyno yno.

Mae Kerala dan gyfyngiadau hefyd erbyn hyn, gyda mwy na 40,000 o achosion dyddiol newydd ac mae silindrau ocsigen diwydiannol bellach yn cael eu troi’n silindrau meddygol wrth i arbenigwyr ddisgrifio’r “ras rhwng llenwi a darparu gwlâu”.

Yn ôl arbenigwyr, mae’r sefyllfa yn y de ychydig yn well na’r gogledd oherwydd bod gofal iechyd yn well ac mae modd ymateb i argyfyngau iechyd ar lefel gymunedol.

Serch hynny, yn y dinasoedd, trefi bach a phentrefi lle mae gwendidau yn y system iechyd mae’r sefyllfa ar ei gwaethaf.