Byddai rhoi’r hawl i’r SNP alw ail refferendwm annibyniaeth yn yr Alban “yn anghyfrifol”, yn ôl George Eustice, Ysgrifennydd yr Amgylchedd yn San Steffan.

Dydy hi ddim yn glir eto, wrth i’r cyfri barhau, a yw plaid Nicola Sturgeon wedi ennill mwyafrif – mae eu gobeithion o ennill y 65 sedd angenrheidiol yn y fantol.

Ond mae hi wedi addo bwrw ymlaen â chynllun y blaid am refferendwm arall.

Daw sylwadau Eustice ar ôl i Boris Johnson, prif weinidog Prydain, fynnu na fyddai’n rhoi’r hawl i’r Alban gynnal refferendwm ar y mater yn dilyn yr un aflwyddiannus yn 2014.

Yn ôl Eustice wrth siarad â Times Radio, byddai cynnal refferendwm arall ar hyn o bryd “yn tynnu sylw” oddi ar faterion eraill.

“Byddai’n anghyfrifol cynnal refferendwm ymwahanol arall a rownd arall o ddadleuon cyfansoddiadol ar adeg pan ydyn ni’n dod o hyd i’n ffordd allan o’r pandemig hwn a phan fod yn rhaid i ni ganolbwyntio go iawn ar adferiad economaidd,” meddai.

“Rydyn ni’n credu mai hwn yw’r peth cwbl anghywir i’w wneud.

“Cawson ni refferendwm ychydig dros bum mlynedd yn ôl ac e wnaeth hynny ddatrys y mater.”

‘Anghyfrifol a diofal’

Daw sylwadau George Eustice ar ôl i Boris Johnson ddweud wrth y Daily Telegraph y byddai cynnal refferendwm arall “yn anghyfrifol ac yn ddiofal” yn y “cyd-destun presennol”.

Ond mae’n gwrthod dweud a fyddai Llywodraeth Prydain yn troi at y llysoedd am ddatrysiad – cam a fyddai’n sicr o arwain at gryn ffrae rhwng Downing Street a’r SNP.

“Edrychwch, nid cyfreithiwr ydw i,” meddai wrth BBC Breakfast.

“Bydd cyfreithwyr yn edrych ar y pethau hyn a dw i’n credu ein bod ni’n rhoi’r cart o flaen y ceffyl.

“Mae yna gwestiwn ar hyn o bryd ynghyd a fydd yr SNP yn cael mwyafrif neu beidio – bydd rhaid i ni aros i weld tan bod y canlyniadau’n dod drwodd.”

Mwyafrif o blaid annibyniaeth

Yn ôl John Swinney, Dirprwy Brif Weinidog yr Alban, mae’n “hyderus iawn” y byddai’r pleidiau o blaid annibyniaeth yn ennill mwyafrif yn Holyrood – hyd yn oed pe na bai gan yr SNP fwyafrif.

Allan o’r 48 o etholaethau lle cafodd y canlyniadau eu cyhoeddi eisoes, roedd gan yr SNP 39 o seddi, y Democratiaid Rhyddfrydol pedair, y Ceidwadwyr tair a Llafur dwy, gyda’r SNP yn fuddugol yng Nghanol Caeredin, Ayr a Dwyrain Lothian.

Ond mae hynny’n golygu ei bod yn debygol y bydd yr SNP ar eu colled yn y seddi rhanbarthol.