Mae’r heddlu’n ymchwilio i achos posib o dwyll etholiadol yng Nghaeredin yn ystod etholiadau Holyrood.
Cafodd papur pleidleisio ei roi i’r naill ochr gan fod unigolyn yn etholaeth Gogledd Caeredin a Leith wedi ceisio pleidleisio cyn cael ei atal am fod pleidlais eisoes wedi’i bwrw yn ei enw.
Cafodd ymgeiswyr a’u hasiantiaid eu galw i mewn heddiw (dydd Sadwrn, Mai 8), wrth i’r cyfri ddechrau er mwyn dod o hyd i’r bleidlais amheus.
Daeth swyddogion o hyd i’r papur dan sylw ac mae’r heddlu, oedd yn bresennol wrth i’r papurau gael eu cyfri, yn cynnal ymchwiliad.
Bydd y bleidlais amheus yn cael ei chynnwys yn y ffigurau terfynol rhag ofn ei bod hi’n bleidlais go iawn ac nad oes amgylchiadau amheus wedi’r cyfan.
Yn dilyn y digwyddiad, byddai’r unigolyn oedd wedi methu defnyddio’r papur cywir wedi gallu bwrw pleidlais a’i gosod mewn amlen a allai gael ei chyflwyno pe bai achos llys neu her gyfreithiol.