Mae Mark Drakeford, arweinydd Llafur Cymru, wedi addo llywodraeth “radical ac uchelgeisiol” wrth i’w blaid ennill 30 o seddi i gael parhau mewn grym yn nhymor nesa’r Senedd.

Mae 30 sedd yn golygu eu bod nhw wedi efelychu eu perfformiad gorau erioed.

‘Dydy’r pandemig ddim wedi mynd i ffwrdd’

Wrth siarad â Press Association cyn cyhoeddi’r canlyniad terfynol, dywed Mark Drakeford mai Covid-19 fyddai’r flaenoriaeth o hyd i’r llywodraeth yn y tymor newydd yn y Senedd.

“Dydy’r pandemig ddim wedi mynd i ffwrdd,” meddai.

“Bydd llywodraeth dw i’n ei harwain yn parhau i ddilyn y wyddoniaeth i wneud yr hyn mae ein cynghorwyr yn dweud wrthym y dylem ei wneud, ac mae hynny’n golygu gwneud pethau mewn ffordd sy’n parhau i gadw Cymru’n ddiogel.

“Ond ar faterion eraill, mae ein maniffesto’n faniffesto radical â llu o syniadau sy’n uchelgeisiol i Gymru.

“Byddaf i’n awyddus iawn i sicrhau ein bod ni’n rhoi’r synnwyr cryfaf o fomentwm y tu ôl iddi er mwyn cael y pethau hynny’n digwydd yng Nghymru.”

Roedd e’n dathlu’r canlyniad yn swyddfeydd Llafur neithiwr (nos Wener, Mai 7), ond mae’n ymweld â Phen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl heddiw (dydd Sadwrn, Mai 8) i annerch aelodau o’r blaid.

Llafur Cymru’n paratoi am dymor arall wrth y llyw yn y Senedd

Maen nhw wedi ennill cyfanswm o 30 o seddi – gydag ambell ganlyniad rhanbarthol eto i ddod