Mae Llafur Cymru’n paratoi am dymor arall wrth y llyw yn y Senedd ar ôl efelychu eu canlyniad gorau erioed wrth ennill 30 o seddi.
Seddi’r gogledd oedd y rhai oedd yn fwyaf tebygol o gael eu colli, ond fe wnaeth plaid Mark Drakeford lwyddo i gadw eu gafael arnyn nhw er gwaethaf ymdrechion y Ceidwadwyr.
Yn ôl Drakeford, mae’r blaid “wedi mynd y tu hwnt i’r disgwyliadau”, gan orffen un sedd yn brin o fwyafrif – does dim disgwyl iddyn nhw ennill yr un o’r wyth o seddi rhanbarthol sydd heb eu cyhoeddi eto yng Nghanol De Cymru a Dwyrain De Cymru.
Mae gan y Ceidwadwyr 12 o seddi ar ôl cipio Dyffryn Clwyd oddi ar Lafur, tra bod gan Blaid Cymru naw sedd ar ôl i Leanne Wood golli’r Rhondda i Lafur, ac mae gan y Democratiaid Rhyddfrydol un sedd wrth i’r arweinydd Jane Dodds gipio sedd ranbarthol y Canolbarth a’r Gorllewin.
Mewn datganiad, mae Llafur yn rhestri eu prif lwyddiannau, sef:
- Trechu Plaid Cymru a Leanne Wood yn y Rhondda a Helen Mary Jones yn Llanelli
- Trechu’r Ceidwadwyr mewn seddi allweddol fel Gorllewin Casnewydd, Gŵyr a Phen-y-bont ar Ogwr
- Dal eu gafael ar seddi Delyn, De Clwyd a Wrecsam gan wrthsefyll y Ceidwadwyr yn y gogledd-ddwyrain
- Lleihau mwyafrif y Ceidwadwyr yn Sir Fynwy a’r gorllewin
- Pleidleisiau wedi gwyro o Blaid Cymru a’r Ceidwadwyr tuag at Lafur
Gwell na’r disgwyl i Lafur
Yn ôl y Blaid Lafur, fe gawson nhw “set eithriadol o ganlyniadau mewn amserau eithriadol”.
Roedd sïon yn dew y gallen nhw fod wedi cael eu canlyniad gwaethaf erioed – cyn lleied â 22 o seddi, saith yn llai nag y gwnaethon nhw eu hennill yn 2016, ac roedd y blaid yn dweud eu bod nhw’n wynebu “cryn her” wrth i’r gorsafoedd pleidleisio gau eu drysau nos Iau (Mai 6).
Ond mae Mark Drakeford, sydd wedi cadw ei sedd yng Ngorllewin Caerdydd wrth i’w fwyafrif dyfu o 1,176 i 11,211 o bleidleisiau, wrth ei fodd â pherfformiad y blaid.
“A oeddwn i’n meddwl y bydden ni’n cyrraedd rhan ucha’r ugeiniau? Roedd hynny fwy na thebyg ben ucha’r hyn ro’n i’n meddwl oedd yn gyraeddadwy, o ystyried amgylchiadau eithriadol yr etholiad hwn,” meddai.
Ond mae’n dweud y bydd yn aros tan bod yr holl ganlyniadau wedi’u cyhoeddi cyn dechrau meddwl am ffurfio’r Llywodraeth Lafur Cymru nesaf.
Noson siomedig i’r gwrthbleidiau
Yn ôl Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, roedd cipio Dyffryn Clwyd oddi ar Lafur yn “ganlyniad gwych”, ond mae’n dweud bod pleidleiswyr Llafur oedd wedi pleidleisio dros y Ceidwadwyr yn yr etholiad cyffredinol “Brexit” yn 2019 bellach “wedi mynd adref”.
Yn ôl Llafur, roedd Plaid Cymru “wedi ymffrwydro” wrth i Leanne Wood golli ei sedd yn y Rhondda i Elizabeth Buffy Williams o’r Blaid Lafur, a methu â chipio seddi targed yn Llanelli ac Aberconwy.
Dywedodd Leanne Wood fod ei chanlyniad hi’n un “siomedig”, ond fod ei phlaid wedi cynnal ymgyrch “lân a gonest”.
Dydy hi ddim yn glir eto i ba raddau y bydd y Blaid Lafur yn dibynnu ar bleidiau eraill i ffurfio llywodraeth – os o gwbl – ond fe ddaw hynny’n gliriach ar ôl bore heddiw.