Mae Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, yn dweud y bydd ei phlaid yn barod i gydweithio yn y Senedd er lles dyfodol Cymru.
Daw hyn ar ôl iddi gael ei hethol i sedd ranbarthol y Canolbarth a’r Gorllewin.
Mae’n dweud bod y blaid yn barod i “sefyll i fyny dros bawb, waeth bynnag sut y gwnaethon nhw bleidleisio”.
Y rhai eraill sydd wedi’u hethol i seddi’r rhanbarth mae Eluned Morgan (Llafur), Joyce Watson (Llafur) a Cefin Campbell (Plaid Cymru).
‘Senedd sy’n canolbwyntio ar anghenion cymunedau ledled Cymru’
“Mae’n rhaid i’r heriau rydyn ni’n eu hwynebu yng Nghymru wrth i ni ddod allan o’r pandemig gael eu hateb gan Senedd sy’n canolbwyntio ar anghenion cymunedau ledled Cymru,” meddai Jane Dodds wedi’r etholiad.
“Fy ymrwymiad i bawb, p’un a wnaethoch chi bleidleisio dros y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru neu beidio, ydi y byddwn ni’n gweithio’n adeiladol ac yn gwneud pob dim fedrwn ni i flaenoriaethu’r adferiad.
“Mae angen adferiad ar Gymru er lles ein cymunedau efo cynllun i gynnal swyddi, busnesau bach a’r Stryd Fawr.
“Mae angen aferiad arnom sydd â chynllun i herio argyfwng yr hinsawdd ac adferiad sy’n blaenoriaethu iechyd meddwl a lles.
“Gall Llywodraeth nesaf Cymru, ac mae’n rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru, weithredu ar y materion hyn.
“Nawr yn fwy nag erioed, mae angen i wleidyddion ganolbwyntio ar ein cymunedau ac anghenion pobol.
“Mae angen mwy o oleuni a llai o wres arnom yn ein dadleuon gwleidyddol.
“Mwy o undod a llai o raniadau.
“Mae angen cynllun sy’n ateb pryderon gwirioneddol mae pobol yn eu teimlo, gyda gobaith go iawn ac optimistiaeth ar gyfer y dyfodol.”