Ar ôl dweud bod Leanne Wood ac Adam Price “wedi chwythu’u plwc” yn etholiadau’r Senedd, mae Chris Bryant, aelod seneddol Llafur y Rhondda, wedi gwneud tro pedol a chyhoeddi teyrnged i Leanne Wood ar ffurf fideo ar y cyfryngau cymdeithasol.

Collodd cyn-arweinydd Plaid Cymru ei sedd ar noson siomedig i’r Blaid, ac roedd Bryant yn beio Adam Price am “siglo’i fys” yn ystod yr ymgyrchu.

Cynyddodd Llafur eu mwyafrif o 7,000 i 12,000.

Ar ôl buddugoliaeth mor swmpus i Elizabeth Buffy Williams yn erbyn rhagflaenydd Adam Price yn arweinydd y Blaid, mae e bellach wedi talu teyrnged i “ymroddiad a dewrder” Leanne Wood, a hynny ar ôl iddo fe gael ei gyhuddo o wneud sylwadau “gwawdlyd” a “di-urddas” ar y cyfryngau cymdeithasol.

Y deyrnged

“Mae’n edrych yn debyg fod Llafur wedi cipio’r Rhondda’n ôl o’r Blaid heddiw,” meddai Chris Bryant yn ei fideo.

“Ond dw i eisiau talu teyrnged i Leanne Wood oherwydd mae Leanne wedi bod yn Aelod Cynulliad, yn Aelod o’r Senedd, yn y Rhondda ers 18 mlynedd ac mae honno’n weithred ragorol o ymroddiad a dewrder ac ymrwymiad i’r gymuned lle cafod ei geni a’i magu.

“Felly dw i eisiau dweud diolch i ti, Leanne.

“Mae yna adegau pan wnaethon ni anghytuno, wrth gwrs.

“Mae yna adegau pan ydyn ni wedi cytuno’n llwyr ar wynebu’r Rhondda a wynebu’r wlad gyfan ac rwyt ti wedi dangos dewrder a phenderfyniad llwyr ar gynifer o wahanol bethau.

“Dw i eisiau diolch i ti.

“Dw i hefyd eisiau dymuno’n dda iawn i ti ar gyfer beth bynnag a ddaw yn y dyfodol.”

Sylwadau blaenorol

Cyn hyn, roedd e wedi dweud fod “pobol fel pe baen nhw eisiau rhoi cyfle i’r Blaid y tro diwetha’ ond yn syml iawn, fe wnaeth Leanne ac Adam chwythu’u plwc”.

Cyhuddodd e Adam Price o “rantio mewn areithiau” ac o “siglo bys drwy’r amser at yr etholwyr”.

Ac fe ddywedodd ei fod yn “obeithiol” y byddai Mark Drakeford yn gallu ffurfio llywodraeth “heb fod angen unrhyw fath o glymblaid â’r Blaid”.