Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ‘peryglu diogelwch y cyhoedd’ drwy fethu â chofnodi miloedd o droseddau, yn ôl ymchwilwyr.
Mae’r llu wedi derbyn rhybudd gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi (HMICFRS) gydag amcangyfrif eu bod yn methu cofnodi 4,400 o droseddau bob 12 mis.
Ddydd Gwener (Mai 7), datgelodd yr Arolygiaeth mai dim ond 87.6% o’r holl droseddau gafodd eu hadrodd yr oedd yr heddlu’n eu cofnodi, a dim ond 85.4% o droseddau treisgar – rhai ohonynt yn cynnwys cam-drin domestig neu ddioddefwyr sy’n agored i niwed.
Dywedodd adroddiad yr Arolygiaeth mai ychydig iawn o dystiolaeth a ganfu o gofnodi troseddau’n cael ei oruchwylio’n effeithiol gan swyddogion, a fyddai fel arall yn caniatáu i’r heddlu sicrhau bod dioddefwr yn cael ei ddiogelu a bod ymchwiliad priodol yn cael ei gwblhau.
Canfu’r arolygiad dilynol diweddaraf fod yr heddlu wedi methu â gwneud gwelliannau disgwyliedig i’w berfformiad ac nad oedd lefelau cofnodi troseddu wedi newid yn dilyn arolygiad blaenorol yn 2018.
Mae HMICFRS bellach wedi pennu nifer o argymhellion ar gyfer Heddlu Dyfed-Powys, gan gynnwys gwella ei systemau a’i brosesau ar gyfer cofnodi troseddau a gofnodwyd, rhoi sylw arbennig i gam-drin domestig, a sicrhau goruchwyliaeth ddigonol o’r penderfyniadau cofnodi troseddau a wneir gan swyddogion yr heddlu a staff.
Mae’r arolygiaeth hefyd wedi argymell y dylai’r heddlu ddarparu gwell hyfforddiant i’w holl swyddogion a’i staff perthnasol o fewn y tri mis nesaf.
“Methu’n gyson”
Dywedodd Wendy Williams, Arolygydd Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi: “Dylai unrhyw un sy’n adrodd am drosedd deimlo’n ddiogel gan wybod y bydd eu heddlu lleol yn ei gofnodi.
“Yr wyf yn pryderu bod Heddlu Dyfed-Powys wedi methu’n gyson â chofnodi cynifer o droseddau a’i fod yn peryglu diogelwch y cyhoedd.
“Rwy’n poeni’n arbennig bod dioddefwyr cam-drin domestig yn cael eu siomi gan Heddlu Dyfed-Powys.
“Mae methu â chofnodi’r troseddau hyn yn golygu nad yw dioddefwyr sy’n agored i niwed yn cael eu diogelu’n iawn ac na fydd ymchwiliad yn cael ei gynnal.
“Fe wnaethon ni ddweud wrth Heddlu Dyfed-Powys i wneud gwelliannau mewn cofnodi troseddau ddwy flynedd a hanner yn ôl, ac eto nid yw wedi gwneud unrhyw gynnydd o hyd.
“Felly, byddwn yn monitro perfformiad yr heddlu’n ofalus er mwyn sicrhau mai diogelwch y cyhoedd sy’n dod gyntaf.”
Heddlu Dyfed-Powys yn “derbyn y pryderon a’r argymhellion”
Dywedodd Claire Parmenter, Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys: “Rydym yn derbyn y pryderon a’r argymhellion a gyhoeddwyd gan HMICFRS mewn perthynas ag uniondeb data troseddau.
“Fel sefydliad, rydym wedi ymrwymo’n gadarn i gefnogi dioddefwyr a’u rhoi wrth wraidd popeth a wnawn.
“Mae gan yr heddlu gynlluniau ar waith i wella’r ffordd rydym yn recordio troseddau ac rwy’n benderfynol y byddwn yn llwyddo i wneud hyn yn iawn.”