Mae Menter a Busnes wedi derbyn cyllid i weithio gyda Phartneriaid Diogelwch Fferm Cymru i geisio lleihau nifer y marwolaethau a’r anafiadau ar ffermydd yng Nghymru.

Mae Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru yn dod â sefydliadau rhanddeiliaid amaethyddol ynghyd er mwyn gweithio i amlygu diogelwch ar ffermydd, a hybu arfer da.

Nod y bartneriaeth yw ceisio lleihau nifer y marwolaethau a’r anafiadau difrifol sy’n digwydd ar ffermydd yng Nghymru, a bydd y cyllid o £69,000 yn galluogi Menter a Busnes i anelu at hyn.

Amaethyddiaeth sydd â’r gyfradd waethaf o anafiadau angheuol i weithwyr fesul 100,000 o’r prif sectorau diwydiannol.

Dangosodd ystadegau adroddiad yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch fod tri pherson yng Nghymru wedi ei ladd o ganlyniad i ffermio a gweithgareddau amaethyddol eraill rhwng 2019/20.

Trwy’r Bartneriaeth, mae cyfres o weithgareddau ar y gweill er mwyn hyrwyddo diogelwch fferm, a darparu cyngor ac arweiniad mewn cydweithrediad â’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

Codi ymwybyddiaeth

“Er ei fod yn galonogol bod nifer yr anafiadau angheuol wedi lleihau yng Nghymru yn ystod 2019/20, mae’r ffigwr yn dal i fod yn rhy uchel ac mae angen gwneud mwy i leihau’r ffigwr ymhellach,” meddai Eirwen Williams, cyfarwyddwr Menter a Busnes.

“Bydd y cyllid gan Lywodraeth Cymru yn cael effaith gadarnhaol ar nod strategol y Bartneriaeth o leihau’r nifer annerbyniol o ddamweiniau difrifol a marwolaethau sy’n digwydd ar ffermydd ledled Cymru bob blwyddyn.

“Trwy weithio gyda’n gilydd, rydym yn creu neges ar y cyd i godi ymwybyddiaeth faterion iechyd a diogelwch ar ffermydd yng Nghymru.

“Bydd y cyllid hwn o £69,000 i hybu gwaith Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru yn gwneud gwahaniaeth mawr ac yn ei alluogi i rannu’r neges honno ymhellach trwy raglen o weithgareddau ledled Cymru.

“Bydd Swyddog Iechyd a Diogelwch penodol hefyd yn cael ei benodi. Bydd y swyddog yn helpu’r Bartneriaeth a’r sefydliadau cysylltiedig i barhau yn ei hymgyrch i annog ffermwyr i oedi, stopio a meddwl cyn cymryd risgiau diangen.”

“Mae fferm yn gartref yn ogystal â gweithle, ac yn ogystal ag amlygu arferion gweithio diogel, rydym ni’n awyddus i hyrwyddo iechyd a diogelwch i blant ac ysgolion.”

“Angen newid meddylfryd”

Mae dau o lysgenhadon Diogelwch Fferm yn cynorthwyo i ledaenu neges y bartneriaeth yn ehangach o fewn y gymuned amaethyddol.

“O ran defnyddio nifer o sgiliau, mae ffermio’n un o’r swyddi mwyaf heriol. Mae yna elfen o falchder hefyd, ac fel ffermwyr, rydyn ni’n credu y gallwn ni wneud popeth,” meddai Alun Elidyr, sy’n ffermwr ac yn cyflwyno rhaglen Ffermio ar S4C.

“Un funud rydych chi’n gyrru tractor, y funud nesaf yn filfeddyg, ac yna’n adeiladwr yn gweithio ar uchder.  Mae tywydd anffafriol yn broblem hefyd, a gall sefyllfa droi’n beryglus yn sydyn iawn – waeth pa mor brofiadol ydych chi.

“Mae ffermwyr yn cael eu hedmygu am fod yn hynod weithgar. Ond mae nifer y damweiniau fferm yn cynyddu, felly mae’n rhaid i ni ofyn i ni’n hunain, ‘ydyn ni’n gweithio’n ddigon diogel?’

“Mae angen i ni newid meddylfryd pobl. Dim ond eiliad y mae’n ei gymryd i stopio ac ystyried yr hyn rydych chi’n ei wneud – a gallai olygu’r gwahaniaeth rhwng byw a marw.”

“Angen cyfleu’r neges”

Mae Glyn Davies, sy’n ffermio yn Llanrhystud, hefyd yn croesawu’r cyllid, gan ei fod yn rhoi mwy o adnoddau i’r Bartneriaeth allu lledaenu’r neges.

“Mae angen i ni gyfleu’r neges bod angen gwella diogelwch fferm,” meddai Glyn Davies.

“Rwy’n credu bod y pandemig wedi bod yn ffactor hefyd, gan fod mwy o bobl wedi bod yn mentro trwy geisio gwneud pethau eu hunain ar y fferm yn hytrach na chael rhywun i mewn i helpu.

“Rydyn ni’n ceisio pwysleisio i bobl bod diogelwch yn eu dwylo nhw yn y pen draw. Mae angen iddyn nhw gymryd eu hamser, cynllunio’r gwaith, a pheidio â mentro. Os oes angen, dylent sicrhau bod pâr arall o lygaid yn edrych ar y sefyllfa, gan y gallent ganfod perygl posibl nad yw wedi’i ystyried.”