Bydd y pleidleisiau yn etholiadau Comisiynwyr Heddlu Cymru yn cael eu cyfrif ddydd Sul, oni bai am ardal y gogledd.

Mae Comisiynwyr yn cael eu hethol ar gyfer ardaloedd Dyfed Powys, y de, Gwent a’r gogledd er mwyn sicrhau bod lluoedd yr heddlu yn gweithredu’n effeithiol.

Roedd yr etholiadau i fod i gael eu cynnal y llynedd, ond bu’n rhaid eu gohirio oherwydd pandemig y coronafeirws.

Mae’r broses o ddilysu Etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu wedi dechrau am naw heddiw (dydd Gwener, 7 Mai).

Bydd y cyfrif yn cychwyn am 9.30 fore Sul (9 Mai) oni bai am ogledd Cymru lle bydd canlyniadau’r etholiad yn cael eu cyhoeddi heddiw, dydd Gwener (Mai 7).

Bydd tymor ar gyfer y Comisiynwyr Heddlu a Throsedd presennol ddod i ben ar 12 Mai, a bydd y Comisiynwyr Heddlu a Throsedd newydd, neu’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd ailetholedig yn dechrau yn ei swydd ar 13 Mai.

Yr Ymgeiswyr ymhob ardal

Ymgeiswyr Dyfed-Powys 

Jon Burns (Ceidwadwyr)

Dafydd Llywelyn (Plaid Cymru)

Philippa Thompson (Llafur)

Glyn Preston (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru)

Gogledd Cymru

Pat Astbury – (Ceidwadwyr)

Andy Dunbobbin – (Llafur)

Ann Griffith – (Plaid Cymru)

Lisa Wilkins – (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru)

Mark Young – (Annibynnol)

Ymgeiswyr De Cymru 

Mike Baker – (Annibynnol)

Steve Gallagher – (Ceidwadwyr)

Gail John – (Propel)

Calum Littlemore – (Democratiaid Rhyddfrydol)

Nadine Marshall – (Plaid Cymru)

Alun Michael – (Llafur)

Ymgeiswyr Gwent 

Donna Cushing – (Plaid Cymru)

Jeff Cuthbert – (Llafur)

Paul Harley – (Annibynnol)

Hannah Jarvis – (Ceidwadwyr)

Clayton Jones – (Gwlad)

John Miller – (Democratiaid Rhyddfrydol)