Mae cynghorydd oedd wedi cyhoeddi fideo’n llawn rhegfeydd ar y cyfryngau cymdiethasol, gafodd ei wylio filoedd o weithiau cyn ei ddileu, wedi ymddiswyddo o’i sedd.
Roedd Sue Malson yn gynhorydd ar ran y Blaid Lafur yn ward Trefddyn a Phenygarn Pont-y-pŵl ar Gyngor Bwrdeistref Torfaen, cyn iddi ymddiswyddo’n gynharach ym mis Tachwedd.
Doedd dim sôn am yr ymddiswyddiad yng nghyfarfod diweddaraf y Cyngor ar Dachwedd 19, ond roedd sylw’n datgan bod y swydd yn wag wedi’i osod gan y Cyngor ddiwrnod ynghynt.
Pan gysylltodd y Gwasanaeth Gohebu ar Ddemocratiaeth Leol â hi yn gofyn iddi gadarnhau ei bod wedi ymddiswyddo, dywedodd Sue Malson nad oedd ganddi sylw i’w wneud.
Dywedodd Anthony Hunt, arweinydd Grŵp Llafur y Cyngor, ei bod hi wedi camu’n ôl “er mwyn ei lles personol”.
Ymddangosodd y fideo ym mis Ionawr, a chadarnhaodd Cyngor Bwrdeistref Torfaen fod eu swyddog monitro yn ymwybodol ohono ac wedi cynnig cyngor i’r cynghorydd.
Dywedodd y Cyngor eu bod yn deall bod y fideo bellach wedi’i dynnu, ac nad oedd unrhyw gwynion swyddogol wedi’u gwneud.
Cefndir
Mae’n debyg i’r fideo gyfeirio at trolls gwrywaidd oedd wedi bod yn gwneud sylwadau sarhaus amdani.
Anogodd y Cynghorydd Anthony Hunt bobol i gofio bod “cynghorwyr yn fodau dynol, gyda’u heriau a’u beichiau eu hunain”, wedi i gwestiynau godi ym mis Chwefror am ddarparu hyfforddiant ar defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol i aelodau’r Cyngor.
“Weithiau mae’r cyfryngau cymdeithasol yn medru ysgogi arferion gwaethaf pobol, a dydy’r gwatwar a’r camdriniaeth mae cynghorwyr wedi’i dderbyn dros y blynyddoedd heb fod yn help i neb,” meddai.
Sue Malson ydy prif weithredwr yr elusen gymunedol TRAC2 hefyd, a’r rheiny yn darparu dodrefn, dillad, dillad gwely, nwyddau gwyn a hanfodion eraill i bobol sy’n ennill cyflog isel.
Mae’r elusen wedi derbyn ymweliad a chanmoliaeth gan yr actor Michael Sheen.
Rôl arbennig
Fis Medi diwethaf, cafodd Sue Malson ei phenodi i rôl gwirfoddol fel eiriolwr cyntaf y Cyngor ar ran y Gymuned Sipsiwn, er mwyn dadlau o blaid y gymuned.
Roedd hi’n credu mai hi oedd y cynghorydd cyntaf o dras Sipsiwn, Teithwyr neu Roma i gael ei hethol yn Nhorfaen.
“Dw i’n gwybod fy mod i’n medru siarad yn gam,” meddai bryd hynny.
“Dw i’n gwybod fod rhai yn hoff ohonof i, ac eraill yn fy nhgasáu i – ond does dim ots gen i am hynny.”
Fis Medi eleni, galwodd hi’r cyn-gynghorydd Llafur David Thomas yn “Pinocchio”, wedi iddi honni ei fod e wedi ceisio ailymuno â’r Grŵp Llafur.
Roedd David Thomas yn aelod annibynnol o’r Cyngor, ond mae bellach wedi ffurfio grŵp cyngor cyntaf Reform UK yng Nghymru.
Doedd y Cynghorydd David Thomas ddim yn gwadu’r cyhuddiad hwnnw yng nghyfarfod y Cyngor ym mis Medi.
Canmol
Mae’r Cynghorydd Anthony Hunt wedi canmol cyfraniadau Sue Malson.
“Mi fyddaf i’n gweld eisiau Sue fel cydweithiwr, ond dw i’n parchu ei phenderfyniad hi i ymddiswyddo er mwyn ei lles ei hun,” meddai.
“Roedd Sue yn gynghorydd arloesol fel eiriolwr ar ran Sipsiwn a Theithwyr, ac fel ymgyrchydd brwd ar ran ei chymuned a’i thrigolion.”
Dywedodd Stephen Vickers, prif weithredwr a swyddog canlyniadau Cyngor Torfaen, fod “swydd wag wedi ymddangos yn etholaeth Trefddyn a Phenygarn yn sgil ymddiswyddiad y cyn-gynghorydd Sue Malson”.
“Cafodd hysbysiad swydd wag ei gyhoeddi’r wythnos ddiwethaf, ac fe fydd is-etholiad yn cael ei drefnu pan fydd dau etholwr o’r awdurdod lleol wedi gwneud ceisiadau ysgrifenedig.
“Fel swyddog canlyniadau, fi fydd yn penodi dyddiad yr is-etholiad, fydd yn digwydd o fewn 35 diwrnod gwaith ar ôl derbyn y ceisiadau.”