Mae Llywodraeth yr Alban wedi cefnogi cyfres o argymhellion i geisio cynyddu’r defnydd o’r iaith Aeleg.
Mae’r adroddiad, gafodd ei gomisiynu gan y Llywodraeth i gyd-fynd â’u Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Trawsnewid yr Economi, wedi’i lunio gan weithgor o siaradwyr Gaeleg yr Alban o amryw o wahanol feysydd.
Ymhlith yr argymhellion mae:
- creu rhwydwaith o Swyddogion Gaeleg yr Alban i ysgogi amrywiaeth o fentrau i gryfhau’r defnydd o’r iaith o fewn cadarnleoedd yr iaith a thu hwnt
- sicrhau argaeledd gwasanaethau gofal plant drwy gyfrwng Gaeleg yr Alban yn ei chadarnleoedd, gyda hyfforddiant yn yr iaith i arweinwyr chwarae ar ffurf prentisiaethau a dulliau eraill
- nodi bod Gaeleg yr Alban yn hanfodol ar gyfer rhai swyddi yng nghadarnleoedd yr iaith, yn enwedig y rheiny sy’n ceisio cryfhau’r manteision economaidd a chymdeithasol ddaw yn sgil medru’r iaith
- hyfforddiant ac ymwybyddiaeth entrepreneuraidd o gynllunio ieithyddol i sefydliadau Gaeleg a chyrff trydydd sector
- datblygu cyfleoedd i ddarparu hyfforddiant a gwasanaethau trwy gyfrwng yr iaith yn y sector iechyd a gofal
- darparu cefnogaeth i gymunedau gael creu neu gaffael asedau i greu gofodau sy’n cynnig hwb economaidd ac yn rhoi’r cyfle i bobol ddefnyddio’r iaith neu i gael mynediad at ofodau megis ysgolion cymunedol.
Croesawu’r ymateb i adroddiad
Mae Alasdair Allan, Aelod Seneddol yr SNP dros Na h-Eileanan an Iar, wedi croesawu ymateb Kate Forbes, Dirprwy Brif Weinidog yr Alban, i’r adroddiad.
Yn ei hymateb, mae hi’n derbyn yr argymhellion bron yn gyfan gwbl ar ran Llywodraeth yr Alban.
Mae’r adroddiad hefyd yn mynd i’r afael â heriau sy’n ei gwneud hi’n anodd i bobol barhau i fyw mewn cymunedau Gaeleg eu hiaith, gan gynnwys tai, trafnidiaeth a chysylltedd digidol.
“Dw i’n hynod ddiolchgar i’r Dirprwy Brif Weinidog am ei hymgysylltiad cadarn a pharhaus ar faterion polisi Gaeleg, ac yn croesawu ei hymateb i’r argymhellion gafodd eu hamlinellu gan y Gweithgor Tymor Byr ar Gyfleoedd Economaidd a Chymdeithasol i’r iaith Aeleg,” meddai Alasdair Allan.
“Mae hon yn eiliad arwyddocaol o ran diogelu dyfodol yr iaith Aeleg, ac mae gan Fil Ieithoedd yr Alban, deddfwriaeth eilradd, polisi ehangach ac ymdrechion cymunedol parhaus oll eu rôl allweddol er mwyn sicrhau gwarchod ac aildyfu’r iaith ar gyfer y cenedlaethau sydd i ddod.”